Dau o gyn-fyfyriwr ar restr fer gwobrau barddoniaeth mawreddog

Richard Georges sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am ei gasgliad Make Us All Islands a gyhoeddwyd gan Shearsman Books.

Richard Georges sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am ei gasgliad Make Us All Islands a gyhoeddwyd gan Shearsman Books.

16 Mehefin 2017

Mae dau o gyn-fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Barddoniaeth Forward 2017.

Mae Richard Georges a  Maria Apichella, ill dau yn raddedig o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, wedi eu cynnwys ar restr derfynol Gwobr Felix Dennis am y Casgliad Cyntaf Gorau.

Mae’r gwobrau, sydd wedi eu disgrifio fel gwobrau ffuglen Man Booker y byd barddonol, gyda’r mwyaf nodedig am farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Mhrydain ac Iwerddon.

Graddiodd Richard gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Aberystwyth yn 2007. Yn wreiddiol o Port of Spain, Trinidad, mae'n gweithio fel awdur, golygydd a darlithydd yn Ynysoedd Virgin Prydain.

Mae wedi cyrraedd y rhestr fer am ei gasgliad Make Us All Islands a gyhoeddwyd gan Shearsman Books.

Bu Maria yn astudio fel myfyrwraig israddedig ac ôl-raddedig yn Aberystwyth a dyfarnwyd iddi ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2015. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar straeon byrion, cofiant a ffuglen i blant ac yn dysgu gyda Phrifysgol Maryland, Coleg y Brifysgol, Ewrop.

Mae Maria wedi ei chynnwys ar y rhestr fer am ei chasgliad Psalmody a gyhoeddwyd gan Eyewear Publishing.

Dywedodd Dr Louise Marshall, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: “Mae’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn hynod falch o lwyddiannau gwych ein cyn-fyfyrwyr, Maria Apichella a Richard Georges, ar gael eu cynnwys ar restr fer gwobr Forward Prizes 2017  am y casgliad gorau o gerddi cyntaf. Mae cyn-oruchwyliwr Maria, yr Athro Matthew Francis, yn arbennig o falch, gan iddo ef ei hun gael ei gynnwys ar y rhestr fer am wobr casgliad cyntaf yn 1996. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi'r enillwyr ym mis Medi ac yn dymuno’n dda i Maria a Richard ar gyfer y seremoni wobrwyo.”

Sefydlwyd Gwobrau Barddoniaeth Forward yn 1991 gan William Sieghart dyngarwr i ddathlu rhagoriaeth mewn barddoniaeth a chynyddu’r gynulleidfa. Caiff ei chyflwyno i feirdd sydd wedi cyhoeddi eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl y trefnwyr, mae'r tair gwobr - £10,000 ar gyfer y Casgliad Gorau, £5,000 ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau a £1,000 ar gyfer y darn unigol gorau o farddoniaeth - yn “unigryw gan eu bod yn dathlu gwaith beirdd cydnabyddedig a gwaith cyntaf gan feirdd newydd disglair.”

Cadeirydd y panel beirniadu eleni yw’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu Andrew Marr, ac mae’n cynnwys y beirdd Ian Duhig, Sandeep Parmar a Mona Arshi, a'r arlunydd Chris Riddell.

Ymysg enillwyr blaenorol Gobrau Forward y mae Claudia Rankine, Thom Gunn, Seamus Heaney, Alice Oswald, Ted Hughes, Carol Ann Duffy a Kathleen Jamie.

Yr enillwyr Gwobrau Forward y llynedd oedd Vahni Capildeo, Tiphanie Yanique a Sasha Dugdale.

Caiff enillwyr gwobrau 2017 eu cyhoeddi yn y Royal Festival Hall, Canolfan Southbank, Llundain ar 21 Medi 2017.

Mae’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o raddau anrhydedd sengl a chyfun mewn Ysgrifennu Creadigol.

Ar lefelau ôl-radd, mae cyfleoedd i astudio ar gyfer graddau Meistr blwyddyn (MA) mewn Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Llenyddol, a doethuriaeth tair blynedd mewn Ysgrifennu Creadigol.