Aberystwyth yn croesawu cynhadledd seicoleg o fri

Dr Sarah Riley, Darllenydd yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a darpar Gadeirydd Grŵp Ymchwil Ansoddol Cymdeithas Seicolegol Prydain, fydd yn cadeirio’r gynhadledd.

Dr Sarah Riley, Darllenydd yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a darpar Gadeirydd Grŵp Ymchwil Ansoddol Cymdeithas Seicolegol Prydain, fydd yn cadeirio’r gynhadledd.

03 Gorffennaf 2017

Bydd dros 120 o ymchwilwyr o 15 o wledydd gwahanol yn ymgasglu ym Mhrifysgol Aberystwyth o 5 tan 7 Gorffennaf 2017 ar gyfer un o brif gynadleddau Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Mae’r Gymdeithas yn cynnal ei chynhadledd flynyddol ar ddulliau ansoddol ym maes seicoleg bob dwy flynedd ac yn ymweld ag Aberystwyth am y tro cyntaf yn 2017.

Mae'r gynhadledd yn gyfle i rannu ymchwil newydd, trafod dulliau ansoddol a chlywed arbenigwyr yn y maes yn trafod eu gwaith.

Tri seicolegydd arobryn fydd y prif siaradwyr - Yr Athro Carla Rice, deilydd Cadair Ymchwil Canada ym Mhrifysgol Guelph, Ontario; Dr Peter Branney, Prifysgol Leeds Becket, a'r Athro Celia Kitzinger, Prifysgol Efrog.

Bydd staff academaidd o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth hefyd yn siarad yn y gynhadledd, gan gynnwys:

  • Dr Sarah Riley, a fydd yn rhoi cyflwyniad ar bennod mae wedi ysgrifennu am wahaniaethu ar sail rhyw ar gyfer cyhoeddiad newydd Handbook of Critical Social Psychology ac yn siarad am yr ystod o ymchwil sy'n cael ei wneud i ddatblygu sut mae cymdeithas yn meddwl am y pwnc.
  • Dr Joseph Keenan, a fydd yn cyflwyno ei ymchwil ar y rhwystrau sy’n wynebu  datblygiad pellach telefeddygaeth yng nghefn gwlad Cymru.
  • Martine Robson, a fydd yn siarad am ei hastudiaeth ymchwil dair blynedd yn edrych ar sut mae cyplau yn ymateb i gyngor ar eu ffordd o fyw ar ôl i un ohonyn nhw gael diagnosis clefyd y galon.
  • Bydd Dr Joseph Keenan a Dr Alison Mackiewicz hefyd yn arwain gweithdy ar yr heriau a'r cyfleoedd sydd yn gysylltiedig â chynnal ymchwil sy’n emosiynol heriol.

Caiff y gynhadledd ei chadeirio eleni gan Dr Sarah Riley, Darllenydd yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a darpar Gadeirydd Grŵp Ymchwil Ansoddol Cymdeithas Seicolegol Prydain.

"Mae'n anrhydedd cael cynnal y gynhadledd hon sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw ym maes seicoleg i rannu arfer gorau a gwybodaeth. Mae Aberystwyth yn brifysgol sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu gwthio ffiniau gwybodaeth. Mae ymchwilwyr ansoddol yn cyfrannu mewn ffyrdd pwysig at wybodaeth seicolegol, gan ddefnyddio data ysgrifenedig a llafar i ateb cwestiynau am sut mae pobl yn profi ac yn dehongli eu byd, a dadansoddi goblygiadau hyn o ran ei effaith ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud, yn ei feddwl ac yn ei wneud,” meddai Dr Riley.