Agor Labordy Canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth

Dr David Blaney (Canol), Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn agor Labordy Canmlwyddiant yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Dr David Blaney (Canol), Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn agor Labordy Canmlwyddiant yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

12 Gorffennaf 2017

Cafodd labordy gwyddonol o’r radd flaenaf ei agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (Dydd Mercher 12 Gorffennaf) gan Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae’r gwaith o adnewyddu'r Labordy Canmlwyddiant yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn nodi can mlynedd o addysgu daearyddiaeth a gwyddorau daear yn Aberystwyth.

Mae ystafell C66 Kidson yn adeilad Llandinam ar Gampws Penglais wedi cael ei ddefnyddio fel labordy addysgu ers yr 1970au pan gafodd ei drosi o fod yn llyfrgell.

Diolch i fuddsoddiad gwerth tri chwarter miliwn o bunnoedd, mae'r gwaith adnewyddu wedi creu amgylchedd dysgu hyblyg ac amlswyddogaethol a fydd yn ennyn diddordeb myfyrwyr gan ddefnyddio’r dechnoleg amlgyfrwng ddiweddaraf ar gyfer addysgu.

Mae'n rhan o strategaeth fuddsoddi ehangach sydd wedi gweld cyfanswm o dros £9 miliwn yn cael ei wario ar uwchraddio mannau addysgu ar draws y Brifysgol.

Wrth agor y labordy yn swyddogol, dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: “Mae'r ffaith fod Daearyddiaeth wedi bod yn bwnc yn Aberystwyth am 100 mlynedd yn dangos bod prifysgolion yn rhan o wead tymor hir cymdeithas. Fodd bynnag, er mwyn parhau i wasanaethu eu cymunedau mae’n rhaid iddynt ddatblygu eu portffolio a'u cyfleusterau yn barhaus. Mae datblygiad y Labordy Canmlwyddiant hwn yn enghraifft wych o'r math o fuddsoddiad sy'n hanfodol i leoli Prifysgol Aberystwyth a’i galluogi i fynd i'r afael â her y dyfodol gyda'r un arbenigrwydd ag y mae wedi ei amlygu dros y ganrif ddiwethaf.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn ffodus ein bod yn ymgymryd â’n hymdrechion academaidd mewn lleoliad sy’n ddigon o ryfeddod. Mae gennym ar garreg ein drws labordy naturiol ar gyfer astudio Daearyddiaeth a’r Gwyddorau Daear - o arfordir Bae Ceredigion i fynyddoedd hynafol y Cambria. Mae'r Labordy Canmlwyddiant ar ei newydd wedd yn gwella ymhellach brofiad myfyrwyr Aberystwyth, gan ddarparu gofod rhagorol ar gyfer addysgu a dysgu trawsnewidiol.”

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Cyfarwyddwr yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg: “Mae'r flwyddyn academaidd 2017-18 yn nodi canmlwyddiant Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'r Adran yn haeddiannol falch o'i thraddodiad hir o addysgu ac ymchwil o safon ym maes Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynllunio o fewn yr Adran i ddathlu ein blwyddyn yn gant, gan gynnwys Cyfres Darlithoedd y Canmlwyddiant a gwahoddiad agored i bob un o'n cyn-fyfyrwyr i ymuno â ni i ddathlu yma yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2018.”

Dywedodd yr Athro Rhys Jones, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: “Rwy'n hynod falch o’r buddsoddiad pwysig mae’r Brifysgol wedi ei wneud yn ein labordy addysgu mwyaf, sy’n golygu bod ein cyfleusterau addysgu yn bwrpasol at y dyfodol ac sy’n ein galluogi i gyflwyno i'n myfyrwyr yr hyfforddiant diweddaraf mewn gwahanol agweddau ar astudio daearyddiaeth a daear ffisegol a gwyddorau amgylcheddol.”

Arweinydd y prosiect oedd Nia Jeremeia o Adran Datblygu Ystadau’r Brifysgol: “Mae hwn wedi bod yn gynllun heriol ond cyffrous i'r Tîm Prosiect, a fu'n gweithio'n agos gyda staff yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear i ffurfio brîff ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn, a goruchwylio'r gwaith ar y safle. Mae'r cyfleuster gwych yma yn cefnogi dulliau addysgu newydd, yn galluogi dulliau mwy modern ar gyfer cynnal arbrofion a chofnodi data, a bydd yn gwella profiad dysgu'r myfyrwyr yn fawr.”

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn un o'r adrannau hynaf o'i fath yn y DU a’r gyntaf i gynnig graddau anrhydedd sengl mewn daearyddiaeth ddynol a daearyddiaeth ffisegol i fyfyrwyr.

Caiff ymrwymiad yr adran i addysgu rhagorol a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr ei adlewyrchu yn y sgôr o 95% a gafwyd am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr Cenedlaethol 2016.

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014), mae'r Brifysgol ar y brig yng Nghymru ar gyfer Daearyddiaeth, gyda 78% o ymchwil yr adran dosbarthu o “safon fyd-eang” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”. Ar ben hynny, nodwyd bod 100% o ymchwil yr adran naill ai yn cael effaith rhagorol neu sylweddol iawn o ran ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd.