Aberfan: The Fight for Justice - Enillydd Bafta Cymru i gynnal dosbarth meistr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Iwan England, cyn-fyfyriwr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac enillydd gwobr BAFTA Cymru

Iwan England, cyn-fyfyriwr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac enillydd gwobr BAFTA Cymru

07 Rhagfyr 2017

Bydd y gwneuthurwr rhaglenni dogfen arobryn Iwan England, sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, yn dychwelyd i Aber ddydd Gwener 8 Rhagfyr i gynnal dosbarth meistr i fyfyrwyr.

Enillodd Iwan, a fu’n astudio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Wobr Ddogfen Sengl Bafta Cymru 2017 am Aberfan: The Fight for Justice.

Cynhyrchwyd y rhaglen i nodi hanner can-mlwyddiant y drychineb, ac mae’n olrhain hanes brwydr Aberfan dros gyfiawnder a barodd ddegawdau, wedi i wastraff o domen lô ladd 144 o bobl ym mhentref Aberfan ar 21 Hydref 1966, 116 ohonynt yn blant.

Yn ystod y dosbarth meistr sy’n cael ei gynnal yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, bydd Iwan yn sôn wrth fyfyrwyr am y broses o wneud rhaglen ddogfen. 

Mae’r Dosbarth Meistr BAFTA ar agor i bawb, ac yn cael ei gynnal am 2:00 yp yn Stiwdio R Gerallt Jones, adeilad Parry-Williams yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Rydym wrth ein bodd â llwyddiant Iwan ac yn falch iawn ei fod yn dychwelyd i Aberystwyth yr wythnos hon i rannu ei brofiad ar wneud Aberfan: The Fight for Justice. Fel mae’n digwydd, Prifysgol Aberystwyth oedd noddwr categori Dogfen Sengl Bafta Cymru 2017, ac roedd hi’n wych gweld un o’n graddedigion yn ennill y categori gyda ffilm ddogfen mor bwysig, sydd yn garreg bwysig yn ein dealltwriaeth o drychineb Aberfan.”

Enillodd Aberfan: The Fight for Justice ail wobr Bafta Cymru wrth i’r newyddiadurwr y BBC Huw Edwards gipio gwobr y Cyflwynydd Gorau.

Roedd yn un o dair rhaglen oedd yn canolbwyntio ar drychineb bywyd Aberfan i ennill gwobrau yn Bafta Cymru 2017, a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ddydd Sul 8 Hydref.

Aeth y wobr am y Ddrama Deledu orau i Aberfan: The Green Hollow wobr Drama Teledu, a gwobr Cyfarwyddwr Ffeithiol i Marc Evans am The Aberfan Young Wives Club.

Ymhlith yr enillwyr eraill yn y gwobrau roedd yr actor o Hollywood, Michael Sheen, a gafodd wobr Bafta Cymru yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes am The Fight For My Steel Town a oedd yn edrych ar golli swyddi yn yr ardal.

Profodd Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, Bryn Terfel, llwyddiant hefyd wrth i’w raglen Gwlad y Gân ennill gwobr Rhaglen Adloniant.

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr Bafta Cymru 2017 ar-lein.