Buddugoliaeth Miloš Zeman yn etholiad arlywyddol y Weriniaeth Tseic yn gam arall yn ol i ryddfrydiaeth orllewinol

31 Ionawr 2018

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jan Ruzicka, darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Diogelwch yn trafod ailethol Miloš Zeman yn arlywydd y Weriniaeth Tsiec.

Adroddiad newydd yn amlygu cyfraniad prifysgolion i economi Cymru

31 Ionawr 2018

Mae Prifysgolion yng Nghymru yn cyfrannu dros £5bn ac yn cynnal bron i 50,000 yn ôl adroddiad annibynnol sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, 31 Ionawr 2018.

Prifysgol Aberystwyth yng 100 uchaf Stonewall

31 Ionawr 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth ymysg 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 31 Ionawr 2018.

Enillydd gwobr Pulitzer i siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth

29 Ionawr 2018

Bydd y dadlau a fu ynghylch adrodd am newyn mawr yr Wcrain 1932-1933 a laddodd rhwng 7-10 miliwn o bobl yn gefndir i Ddarlith Flynyddol Sefydliad Coffa David Davies 2018.

Llyfrau plant yn cael eu cyflwyno i gymuned yn Japan

25 Ionawr 2018

Bydd casgliad o lyfrau plant yn cael eu cyflwyno i gymuned Yosano yn Japan gan fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ar eu hymweld yn hwyrach yr wythnos hon.

Ffilm myfyriwr o Aberystwyth ar restr fer gwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol

24 Ionawr 2018

Mae ffilm gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru.

Efallai taw mamau milwyr marw fydd yn ffrwyno uchelgais Vladimir Putin

24 Ionawr 2018

Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod bwriad Vladimir Putin i bortreadi Rwsia fel gwlad gref, benderfynol sydd yn medru ail-lunio'r byd at ei dibenion ei hun, mewn erthygl yn The Conversation.

Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi myfyrwyr

23 Ionawr 2018

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cael cipolwg gwerthfawr i fywydau gwaith arweinwyr busnes a chyfreithwyr yn Llundain, diolch i gefnogaeth ein cyn-fyfyrwyr.

Ymweliad â Yosano i gryfhau’r cysylltiad rhwng Cymru a Japan

23 Ionawr 2018

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn adeiladu ar y cysylltiad hir-dymor rhwng Aberystwyth a thref Yosano yn Japan pan fyddant yn ymweld yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Nid yw gwahardiad ar fagiau plastig yn ddigon, felly dewch i ni edrych ar gyfrifon carbon personol o'r newydd

22 Ionawr 2018

Mewn erthygl yn y Conversation (Saesneg), mae'r ymchwilydd Martin Burgess yn trafod astudiaeth ddichonoldeb, sydd wedi derbyn cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol, i bolisi ymddygiad amgylcheddol ar draws Cymru: cyfrifon carbon personol.

Ymgyrch perthyn y Fyddin Brydeinig yn cydnabod newid mewn gwrywdod

18 Ionawr 2018

Dr Jenny Mathers o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol y Brifysgol yn trafod ymgyrch recriwtio ddiweddaraf y Fyddin Brydeinig sydd wedi ennyn beirniadaeth gan rai, mewn erthygl ar wefan The Conversation. Erthygl yn Saesneg yw hon.

Cofnod newydd, hir o hinsawdd Affrica’n cefnogi dyddiadau cynnar Allan o Affrica

18 Ionawr 2018

Mae ymchwil newydd yn dangos bod hinsawdd gogledd ddwyrain Affrica wedi ffafrio mudo gan fodau dynol modern cynnar allan o Affrica hyd at 70,000 o flynyddoedd yn gynt na’r hyn a amcangyfriwyd ac a dderbyniwyd yn eang tan yn ddiweddar.

Prosiect cymunedol yn chwilio am logo newydd

17 Ionawr 2018

Mae menter gyffrous rhwng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth a Fforwm Penparcau yn gwahodd syniadau am logo newydd.

Nodi 60 mlynedd ers sefydlu TWW – Television Wales and the West

12 Ionawr 2018

Drigain mlynedd ers sefydlu’r cwmni teledu annibynnol TWW, mae Dr Jamie Medhurst, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Prifysgol Aberystwyth, yn edrych yn ôl ar ei ddyddiau cynnar.

Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Gŵyl y Gyfraith a Throseddeg

05 Ionawr 2018

Goblygiadau cyfreithiol ceir di-yrrwr ac a ydy plant mor ifanc â 10 oed yn medru dweud y gwahaniaeth rhwng ymddygiad ‘troseddol’ a ‘drwg’, dyna fydd dwy o’r themâu fydd yn cael eu trafod yng Ngŵyl y Gyfraith a Throseddeg gyntaf Prifysgol Aberystwyth.

Ymchwil yn dangos sut mae pyllau rhewllyd ar wyneb rhewlifoedd yr Himalaya yn dylanwadu ar lif y dŵr

08 Ionawr 2018

Gwyddonwyr o Aberystwyth yn datgelu bod llif y dŵr sy'n cynnal isadeiliedd trydan hydro a dyfrhau ym mynyddoedd Nepal ac India yn cael ei reoleiddio gan gannoedd o byllau rhewllyd mawr ar wyneb rhai o rhewlifau uchaf y byd.

Agor Llyfrgell Hugh Owen ar ei newydd wedd

09 Ionawr 2018

Mae Brifysgol wedi buddsoddi dros £1 miliwn wrth adnewyddu llyfrgell eiconig Hugh Owen.  Agorwyd Lefel D Llyfrgell Hugh Owen ar ei newydd wedd yn swyddogol ar ddydd Llun 8 Ionawr, ac mae’n ofod sy’n diwallu anghenion myfyrwyr yr 21ain ganrif.

Ymchwil newydd ar recriwtio nyrsys gwledig

09 Ionawr 2018

Bydd yr heriau o recriwtio nyrsys i weithio yn y Gymru wledig yn cael eu harchwilio mewn astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dyddiad cau ysgoloriaethau mynediad

10 Ionawr 2018

Atgoffa ymgeiswyr i beidio â cholli allan ar gymorth ariannol posibl gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn ar drothwy’r dyddiad cau ar gyfer arholiadau mynediad Ysgoloriaethau Mynediad, sef 18 Ionawr 2018.