Dathlu Blwyddyn y Môr ar Ddiwrnod Ewrop yn y Bandstand yn Aberystwyth

Ynys Las. Llun: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Ynys Las. Llun: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

30 Ebrill 2018

 

Bydd Prifysgol Aberystwyth a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dathlu Diwrnod Ewrop ar ddydd Mercher 9 Mai 2018 gydag arddangosfa o ymchwil morol yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd rhwng 10 y bore a 2 y prynhawn ac yn cynnwys gwaith pedwar prosiect ymchwil o bwys; Ecostructure, Bluefish, CHERISH a Acclimatize.

Ar y cyd, denodd y prosiectau €18m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Raglen Cydweithredu Cymru Iwerddon 2014-2020 Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop http://irelandwales.eu/cy ac maent yn cael eu rhedeg ar y cyd gan sefydliadau partner yng Nghymru ac Iwerddon.

Mae'r prosiectau'n ceisio mynd i'r afael â chwestiynau o bwys a gynlluniwyd er mwyn cynorthwyo cymunedau arfordirol Gorllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon i addasu i effeithiau newid hinsawdd sy'n effeithio ar Fôr Iwerddon ac ardaloedd cyfagos.

Bydd cyfle i ymwelwyr i’r arddangosfa weld:

  • Eco-ddyluniadau prototeip a fydd yn cael eu profi gan brosiect ECOSTRUCTURE ar gyfer darparu cartrefi newydd i fywyd môr ar strwythurau arfordirol dyfeisiedig er mwyn hybu bioamrywiaeth.
  • Gwaith tîm BLUEFISH i adnabod larfa'r cregyn gleision o fewn plancton trwy beri iddynt sgleinio a’r defnydd o DNA i fonitro iechyd poblogaethau cocos.
  • Modelau cyfrifiadurol 3D o’r arfordir a lluniau o'r awyr o rai safleoedd treftadaeth arfordirol eiconig yn ogystal â chyfarpar tirfesur a ddefnyddir gan dîm CHERISH.
  • Gorolwg o brosiect ACCLIMATIZE sydd yn datblygu modelau amser go-iawn a rheolaeth weithredol o ansawdd dŵr ymdrochi a rhagweld effeithiau newid hinsawdd.

Dywedodd Liz Humphreys o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae ein dathliadau Diwrnod Ewrop yn gyfle i'r cyhoedd ddysgu am y prosiectau ymchwil hanfodol sydd yn cael eu gwneud gan Brifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid o gwmpas ac ym Môr Iwerddon gyda chymorth grant gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Iwerddon Cymru 2014-2020.”

“Mae llawer o ddinasoedd, trefi a chysylltiadau trafnidiaeth Cymru ac Iwerddon ar yr arfordir ac mae'r môr yn chwarae rhan arwyddocaol yn eu heconomïau a'u hecosystemau naturiol. Fodd bynnag, rhagwelir bod llawer o'r rhain o dan fygythiad o ganlyniad i effeithiau newid hinsawdd gan gynnwys tywydd eithafol a chynnydd yn lefel y môr.”

“Bydd angen i gymunedau arfordirol ar ddwy ochr Môr Iwerddon addasu i effeithiau'r digwyddiadau hyn ac mae sefydliadau o'r ddwy wlad eisoes wedi rhannu gwybodaeth, cynnal ymchwil newydd er mwyn monitro newid hinsawdd a chryfhau gwydnwch cymunedau arfordirol er mwyn diogelu eu dyfodol.

“Mae'r pedwar prosiect wedi'u cynllunio i adeiladu ar gryfderau a photensial economaidd economïau arfordirol Môr Iwerddon i gynhyrchu ffyniant a thwf cynaliadwy, ac mae pob un o'r prosiectau hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn Iwerddon yn ogystal â chydweithio agos gydag asiantaethau allweddol yng Nghymru.”

Os am wybod mwy, dewch i’r arddangosfa yn y Bandstand yn Aberystwyth rhwng 10 y bore a 2 y prynhawn ddydd Mercher 9 Mai, 2018.