Prifysgol Aberystwyth yn noddi Penwythnos Mawr Pride Cymru

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle yn ôl mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2018.

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle yn ôl mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2018.

17 Awst 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o brif noddwyr Penwythnos Mawr Pride Cymru sydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 24–26 Awst 2018.

Dyma’r trydydd tro i’r Brifysgol, a gafodd ei chynnwys ymhlith 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle gan Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn Ionawr 2018, noddi’r digwyddiad.

Mae presenoldeb y Brifysgol yn Pride Cymru yn rhan o raglen lawn o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â rhwydwaith LGBTA Enfys Aber dros yr haf.

Mewn cydweithrediad gyda’r grŵp cymunedol SpringOut, mae Enfys Aber wedi bod yn mynd ag Aberration, sydd yn llwyfannu digwyddiadau celfyddydol LGBTA, ar daith.

Gyda chefnogaeth gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r gwesty llysieuol Over the Rainbow, mae Aberration eisoes wedi ymddangos yn L Fest Llynedd yn Llandudno a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae ei Sioe Bentref Amgen yn cael ei lwyfannu yn Nhŷ Haf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth heddiw ar 17 Awst, a bydd y daith yn dod i ben gyda noson cabaret yn Y Galeri, Caernarfon ar 14 Medi 2018.

Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chydlynydd Enfys Aber: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiadau LGBTA uchel eu proffil yr haf hwn. Mae Aberration yn gyfres o ddigwyddiadau celfyddydol LGBTA a drefnir mewn partneriaeth â SpringOut, ac sydd wedi derbyn cefnogaeth y Brifysgol a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Eleni, cafodd Aberration gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud taith sydd wedi cynnwys ymweliad â’r Eisteddfod Genedlaethol, y mae'r Brifysgol yn un o'i noddwyr. Rydym hefyd yn falch iawn bod y Brifysgol yn un o noddwyr Pride Cymru eto eleni.”

Bydd gan Brifysgol Aberystwyth stondin yn Pride Cymru a bydd yn cael ei chynrychioli yn yr orymdaith drwy ganol Caerdydd ddydd Sadwrn 25 Awst.