Wythnos Un Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth

01 Mawrth 2019

Bydd dathliadau blynyddol Prifysgol Aberystwyth i hyrwyddo cyfoeth ac amrywiaeth diwylliannau a chenhedloedd ei chymuned o fyfyrwyr rhyngwladol yn dechrau ddydd Llun 4 Mawrth 2019.

Mae Wythnos Un Byd yn cael ei threfnu gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae wedi hen ennill ei phlwyf yng nghalendr blynyddol y Brifysgol ac mae’n cydnabod ac yn hyrwyddo cyfraniad myfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Aberystwyth a’r gymuned leol.

Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol, bydd yr ŵyl eleni’n dechrau gyda Noson Gala Wythnos Un Byd yn Undeb y Myfyrwyr nos Lun 4 Mawrth am 7.30yh, lle bydd myfyrwyr rhyngwladol o bedwar ban byd yn arddangos eu doniau mewn ystod eang o berfformiadau.

Ddydd Iau 7 Mawrth cynhelir Ffair y Byd Wythnos Un Byd. Mae’r digwyddiad hwn, a gynhelir yn Undeb y Myfyrwyr, yn gyfle i fyfyrwyr a chymdeithasau rhyngwladol i ‘arddangos’ eu diwylliant drwy gynnal stondin, cynnig bwydydd traddodiadol, sgiliau iaith a chrefftau, a chyflwyno cerddoriaeth, bwyd a diod a gwisgoedd traddodiadol eu gwledydd i’r ymwelwyr.

I gloi digwyddiadau’r wythnos ddydd Gwener 8 Mawrth cynhelir Soiree Diwylliannol, a drefnir gan Gymdeithas Erasmus a Myfyrwyr Byd-Eang yn Undeb y Myfyrwyr am 7.30yh, gyda mynediad am ddim a bwyd yn gynwysedig.

Bydd gweithgareddau Wythnos Un Byd eleni hefyd yn cynnwys Noson Gwis, taith i weld y Scarlets yn chwarae yn erbyn Munster yn Llanelli, ac Arddangosfa Ffotograffiaeth ar y thema ‘Aber Fyd-eang a Menywod sy’n Fyfyrwyr Rhyngwladol: cyfraniad a llwyddiannau’.

Drwy gydol dathliadau Wythnos Un Byd, bydd bwyty TaMed Da y Brifysgol, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnig cyfres o fwydlenni arbennig yn cynnwys bwydydd o wahanol ranbarthau a gwledydd ledled y byd.