Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Staff a Myfyrwyr 2019

Mathemateg a enillodd deitl Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr yr Undeb yn 2018

Mathemateg a enillodd deitl Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr yr Undeb yn 2018

18 Mawrth 2019

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi cyhoeddi eu rhestr fer am eu Gwobrau Staff a Myfyrwyr.

Mae'r gwobrau eleni, a drefnir am y wythfed tro gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, yn cynnig cyfle i gydnabod staff (staff dysgu yn ogystal ag aelodau eraill o staff), cynrychiolwyr academaidd drwy'r Brifysgol, a myfyrwyr sy'n gwirfoddoli, am eu gwaith gydol y flwyddyn academaidd.

Eleni, derbyniwyd bron 300 o enwebiadau ar gyfer pymtheg gwobr, sy’n cynnwys Darlithydd y Flwyddyn, Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn, Tiwtor Personol y Flwyddyn, Gwobr Dysgu Arloesol ac Adran y Flwyddyn.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod noson ddathlu yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Fawrth, 2 Ebrill.

Bydd y canlyniadau yn cael eu trydar yn fyw ar y noson gan @Prifysgol_Aber a @UMaberSU.

Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2019 fel a ganlyn:

 

Darlithydd y Flwyddyn

Gabor Gelleri

Martine Robson

Peadar Ó Muircheartaigh

Deena Bhoyroo

Saffron Passam

 

Goruchwyliwr y Flwyddyn

Björn Weiler

Ally Evans

Karl Hoffmann

Sarah Riley

 

Tiwtor Personol y Flwyddyn

Brendan Coyle

Aloysius Igboekwu

Andrew Evans

Iain Chalmers

 

Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn

Angharad Ffion James

Sagar Murdeshwar

 

Aelod Staff Ategol / Gwasanaeth y Flwyddyn

Tina Alaxander

Lorraine Spencer

Doug Kerr

Laura George

 

Gwobr Adborth Eithriadol

Simon Payne

Ugochukwu Lawrence Obibuaku

 

Myfyriwr-fentor y Flwyddyn

Jana Wattenberg

Jayne Elizabeth Kamintzis

Panna Karlinger

 

Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn

Weronika Zapalska

Robin Church

Oliver Earl

 

Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn

Ffion Margetson

Aaron Phillips

Panna Karlinger

Jess Thompson

 

Gwobr Cam Nesaf

Lorraine Spencer

Ian Birchmore

Christina Evans

 

Adran y Flwyddyn

IBERS

Seicoleg

Mathemateg

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

 

Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg

Enillydd i'w gyhoeddi ar y noson

 

Gwobr Arwain Cydraddoldeb

Enillydd i'w gyhoeddi ar y noson

 

Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn

Enillydd i'w gyhoeddi ar y noson

 

Clod Arbennig

Enillydd i'w gyhoeddi ar y noson