Ben Lake yn trafod Brexit o’r meinciau cefn

Bydd Ben Lake AS yn traddodi darlith ar ‘Brexit o’r meinciau cefn’ ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 16 Mai 2019.

Bydd Ben Lake AS yn traddodi darlith ar ‘Brexit o’r meinciau cefn’ ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 16 Mai 2019.

13 Mai 2019

Bydd Aelod Seneddol ieuengaf Cymru, Ben Lake yn trafod Brexit a’i rôl fel meinciwr cefn yn San Steffan mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 16 Mai 2019.

Y ddarlith ‘Brexit o’r meinciau cefn’ yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig i nodi canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Mr Lake: “Mae’n fraint cael fy ngwahodd i draddodi’r ddarlith gyhoeddus hon fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr adran. Mae Brexit yn cynrychioli cyfnod allweddol yng ngwleidyddiaeth Prydain, ac efallai’n cynrychioli’r penderfyniad gwleidyddol mwyaf arwyddocaol ers yr Ail Ryfel Byd, â’r potensial i drawsnewid, o bosibl, system bleidiol sefydledig San Steffan. Edrychaf ymlaen at roi barn gwleidydd meinciau cefn ar gerrig milltir a throbwyntiau’r ddwy flynedd ddiwethaf yn y Senedd.”

Cynhelir y ddarlith am 6yh nos Iau 16 Mai 2019 ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Penglais. Mynediad am ddim a chroeso cynnes i bawb.

Ben Lake AS

Etholwyd Ben Lake i San Steffan ym Mehefin 2017 yn 24 oed, ac ef yw AS ieuengaf Cymru. Wedi graddio o Goleg y Drindod, Rhydychen gyda gradd israddedig mewn Hanes a Gwleidyddiaeth, a gradd meistr mewn Hanes Prydain ac Ewrop yn y cyfnod modern, cafodd swydd fel Swyddog Ymchwil yn y Cynlluniad Cenedlaethol.

Yn rhugl ei Gymraeg, ef yw llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan dros yr Amgylchedd, Bwyd, Materion Gwledig, Addysg, Sgiliau, Iechyd, Cymunedau, Llywodraeth Leol, Diwylliant, y Cyfryngau, Chwaraeon a Materion Cyfansoddiadol. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig a Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth i Ferched.