Cyhoeddi cynhadledd flynyddol gyntaf Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg

Cyhoeddodd yr Athro Glyn Hewinson, sydd yn arwain ar ddatblygiad y Ganolfan Ragoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, fanylion y gynhadledd yn ystod trafodaeth draws-ddiwydiannol am TB Gwartheg yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

22 Gorffennaf 2019

Mae Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi manylion ei chynhadledd flynyddol gyntaf sydd i'w chynnal yn ddiweddarach eleni.

Mi fydd Cynhadledd flynyddol TB Gwartheg y Ganolfan Ragoriaeth yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y 17eg Medi 2019.

Cyhoeddodd yr Athro Glyn Hewinson, sydd yn arwain ar ddatblygiad y Ganolfan Ragoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, fanylion y gynhadledd yn ystod trafodaeth draws-ddiwydiannol am TB Gwartheg yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mi fydd cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ddiagnosis TB gwartheg, ymarfer cyfredol a datblygiadau i'r dyfodol.  Bwriad y digwyddiad undydd fydd darparu dealltwriaeth ehangach o brofion presennol a'u cyfyngiadau a rhagolwg ar brofion newydd sydd ar y gorwel.

Mi fydd y gynhadledd yn cynnwys cyfraniadau o feysydd ymchwil gwyddonol, milfeddygaeth, amaeth a llywodraeth. Mae rhaglen y gynhadledd i’w chael arlein yma.

Meddai'r Athro Glyn Hewinson o Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rhan o genhadaeth y Ganolfan Ragoriaeth yw creu ymwybyddiaeth bellach ar draws y diwydiant  ynglŷn â datblygiadau ym maes TB Gwartheg ac ymdrechion i reoli’r clefyd niweidiol hwn.  Felly rwyf yn falch iawn o gyhoeddi manylion y gynhadledd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Fe fyddwn yn clywed cyfraniadau gan lawer o unigolion uchel eu parch a fydd yn gallu’n diweddaru am yr holl feysydd gwaith allweddol.  Fodd bynnag, bwriad y digwyddiad yw hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth am sut mae arferion presennol a datblygiadau yn y maes hwn yn medru gwella a dylanwadu ar waith ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr gwyddonol a llywodraeth er mwyn symud ymlaen yn ein brwydr yn erbyn TB gwartheg.

“Edrychaf ymlaen at groesawu pawb i Aberystwyth ym mis Medi.”

Mae manylion pellach am y gynhadledd, a gwybodaeth am sut i archebu lle ynddi, ar gael wrth gysylltu â tbcstaff@aber.ac.uk.

Mae’r Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg wedi derbyn cefnogaeth Sêr Cymru II, rhaglen a sefydlwyd er mwyn ehangu a datblygu arbenigedd ymchwil yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Am y newyddion diweddaraf, dilynwch Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth ar twitter @aber_tb.