Cefnogaeth Sefydliad Wolfson i'r Hen Goleg

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth.  Llun: Keith Morris

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth. Llun: Keith Morris

24 Gorffennaf 2019

Mae’r sefydliad uchel ei fri, Sefydliad Wolfson wedi rhoi ei gefnogaeth i gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan newydd ar gyfer diwylliant, dysgu a menter erbyn 2022-23.

Mae'r sefydliad sydd wedi’i leoli yn Llundain wedi dyfarnu grant o £250,000 tuag at arddangosfa ryngweithiol newydd yn yr Hen Goleg, a fydd yn arddangos casgliadau gwyddonol treftadaeth y Brifysgol, sydd dan glo ar hyn o bryd ac sydd o arwyddocâd cenedlaethol.

Y dyfarniad hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o roddion i apêl codi arian y Brifysgol i ailddatblygu’r Hen Goleg, agorwyd ger y lli yn Aberystwyth yn 1872 a chartref cyntaf Prifysgol Cymru.

Wrth groesawu'r cyllid, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Ymgysylltu Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Wolfson am y cyllid hwn sy'n rhoi eu cefnogaeth gynnar i'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer prosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg. Bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu gofod newydd yn yr Hen Goleg ar gyfer ein casgliadau gwyddoniaeth, yn ogystal ag eitemau o ymchwil diweddar a chyfredol. Bydd yr Oriel hefyd yn cynnwys casgliadau dros dro wedi eu darparu gan bartneriaid a chydweithwyr ymchwil. Gyda'i gilydd, byddant yn ysbrydoli dealltwriaeth o'r wyddoniaeth sy'n siapio ein bywydau a'n dyfodol, ac yn apelio at amryw gynulleidfaoedd gan gynnwys plant, grwpiau teuluol, grwpiau ieuenctid a chymunedol a thwristiaid yn ogystal â myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion gwadd.”

Ychwanegodd Paul Ramsbottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson, “Rwyf wrth fy modd fy mod yn cyhoeddi'r cyllid hwn. Rydym wedi gweithio'n galed i ddenu ceisiadau o bob cwr o Gymru, ac am bwysleisio ein bod am ariannu prosiectau gwych lle bynnag y bônt. Efallai bod gennym gyfeiriad yn Llundain, ond rydym am rannu’r neges yn glir: rydym yn croesawu ceisiadau o Gymru.”

Yn wreiddiol, derbyniodd prosiect Bywyd Newydd i'r Hen Goleg arian datblygu rownd un gan y Loteri Genedlaethol gwerth £850,000 ym mis Gorffennaf 2017, gan ganiatáu i'r Brifysgol ddatblygu ei chynlluniau manwl ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd 1.

Caiff y cynigion manwl hynny eu hystyried gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn yr hydref, a disgwylir penderfyniad terfynol ar y dyfarniad ariannu llawn o £10.5 miliwn cyn diwedd 2019.

Y nod yw ailagor yr adeilad ar ddechrau'r flwyddyn academaidd 2022-23 pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.

Sefydliad Wolfson
Mae Sefydliad Wolfson yn elusen annibynnol sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo rhagoriaeth ym meysydd gwyddoniaeth, iechyd, addysg a'r celfyddydau a'r dyniaethau.

Ers ei sefydlu ym 1955, mae dros £900 miliwn wedi'i ddyfarnu i fwy nag 11,000 o brosiectau ledled y DU, oll ar sail adolygiad arbenigol.

Prosiect Bywyd Newydd i'r Hen Goleg
Bydd ailddatblygiad arfaethedig yr Hen Goleg yn sbarduno adfywiad economaidd, gan greu hyd at 40 o swyddi newydd a denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu amgueddfa yn adrodd hanes Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, gofod ar gyfer celf ac arddangosfeydd eraill, canolfan wyddoniaeth a darganfod, cyfleusterau cynadledda a thrafod, ystafelloedd dysgu a seminar a gofod astudio 24 awr i fyfyrwyr.

Gan weithio gyda phartneriaid prosiect megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Ceredigion, bydd y Brifysgol yn amlygu iaith a diwylliant Cymraeg i gynulleidfaoedd rhyngwladol a rhaglen weithgareddau i deuluoedd ac ysgolion.

Caiff yr Hen Lyfrgell â’i phaneli pren godidog ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau yn ogystal â phriodasau, a bydd y lloriau uchaf yn cynnig llety pedair seren o safon uchel mewn 33 ystafell.

Mae elfennau eraill yr ailddatblygiad yn cynnwys 12 o unedau busnes newydd gyda chefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), stiwdios ar gyfer artistiaid, cyfleusterau cymunedol, caffi-bistro a bar.

Mewn ychwanegiad trawiadol at y cynlluniau gwreiddiol i drawsnewid yr Hen Goleg, mae penseiri treftadaeth hefyd wedi ymgorffori yn y prosiect y ddau dŷ Sioraidd cyfagos sy'n eiddo i'r Brifysgol.

Caiff atriwm chwe llawr o uchder ei greu uwchben a thu ôl i rif 1 a 2 y Rhodfa Newydd, gan gadw'r ddau dŷ hanesyddol ond yn cynnig mynediad hwylus ar ffurf lifft a grisiau cyfoes i’r Hen Goleg yn ogystal ag i ystafell ddigwyddiadau ar y to gyda golygfeydd arbennig dros Fae Ceredigion.