WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil

03 Medi 2019

Mae WISERD, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

'Curious Kids': Sut mae ffonau symudol a thabledi yn gweithio?

09 Medi 2019

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, Dr Bernie Tiddeman o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth sy’n gofyn sut mae ffonau symudol a thabledi yn gweithio?

Cwestiynu’r dyfodol wrth i Rwsia Unedig Vladimir Putin golli seddau yn etholiad Moscow

10 Medi 2019

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy'n trafod goblygiadau etholiadau diweddaraf Rwsia.

Adnabod George Powell Nanteos drwy ei gerfluniau efydd

13 Medi 2019

Mae cynllun cyffrous newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth, ArtUK a Fforwm Cymunedol Penparcau am archwilio casgliad cerfluniau George Powell Nanteos.

AberTB – llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg

17 Medi 2019

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn agor ei chynhadledd AberTB gyntaf heddiw, dydd Mawrth 17 Medi 2019, gan addo y daw’r digwyddiad blynyddol yn llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg.

Aberystwyth yw Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru

20 Medi 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2020 gan The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide.

Mae parasit Tocsoplasma ‘baw cathod’ yn heintio biliynau – pam felly ei bod mor anodd i’w astudio?

23 Medi 2019

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, Justyna Anna Nalepa-Grajcar myfyriwr PhD o IBERS sy'n cwestiynu pam ei bod mor anodd i astudio 'baw cathod' - parasit sy'n heintio biliynau o bobl.


 


 

Gŵyl Dysgu Agored

24 Medi 2019

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, dysgu rhywbeth cyffrous, gwella eich sgiliau, cwrdd â ffrindiau newydd a gwneud rhywbeth sydd yn llesol?  Os felly, gallai Gŵyl Ddysgu Prifysgol Aberystwyth fod yn union yr hyn sydd ei angen arnoch.

Arddangosfa newydd i ddatgelu sut mae tirwedd Cymru’n newid

24 Medi 2019

Delweddau lloeren sy’n dangos sut mae’r amgylchedd byd-eang wedi newid yn y 35 mlynedd ddiwethaf a’r effeithiau ar dirwedd Cymru yw canolbwynt arddangosfa newydd yn yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.

Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

25 Medi 2019

Fel rhan o ddathliadau nodi 20 mlynedd o ddatganoli, bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno sesiwn ar ‘Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol’, ddydd Sadwrn 28 Medi 2019 rhwng 11.00 a 12.30pm.

Dyfodol Cynaliadwy: datblygu cynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol

26 Medi 2019

Cynhadledd Ysgol Fusnes Aberystwyth yn dwyn ynghyd academyddion ledled y Brifysgol a rhanddeiliaid polisi amgylcheddol a gwledig allweddol i edrych ar gyfleoedd i ddatblygu prosiectau ymchwil a fydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Darlith Gyhoeddus: 'Subversion as Statecraft: Russia and the United States’

30 Medi 2019

Yr Athro William Wohlforth fydd yn traddodi Darlith Goffa flynyddol EH Carr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddydd Iau 3 Hydref 2019, yn rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Man dechrau darlledu teledu cyhoeddus

30 Medi 2019

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, Dr Jamie Medhurst (Darllennydd mewn Hanes Teledu a’r Cyfryngau) sy’n trafod y darllediad teledu cyhoeddus cyntaf ar 30 Medi 1929, a sut na fu’r byd byth yr un peth eto.