Blwyddyn Newydd yn dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

14 Ionawr 2020

Heddiw, mae Hen Goleg eiconig Prifysgol Aberystwyth, un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Gradd I Cymru, wedi cael bron i £10 miliwn (£9,732,300) o arian y Loteri Genedlaethol er mwyn helpu i’w adnewyddu a sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir fel canolfan ar gyfer diwylliant, treftadaeth, darganfyddiadau, dysgu a menter, fydd yn denu 190,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Bydd £3 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru a £3 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth i hybu’r cyfleoedd newydd am dwristiaeth a ddaw yn sgil yr ailddatblygiad.

Mae’r Hen Goleg, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1, yn symbol o greadigaeth ein cenedl ac addysg uwch arloesol yng Nghymru, ar ôl i Brifysgol Cymru ei brynu am £10,000 yn unig yn 1867 gan ddefnyddio arian a gyfranwyd gan y gymuned leol.

Agorodd ei ddrysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872, ac am bron i ganrif gwelodd yr adeilad glan môr Gothig hwn filoedd o fyfyrwyr yn mynd a dod. Chwaraeodd ran hanfodol yn hanes addysgiadol Cymru a goroesiad iaith, diwylliant a hunaniaeth genedlaethol Cymru.

Fodd bynnag, pan symudodd y Brifysgol i gampws newydd sbon yn y 1960au, roedd yr Hen Goleg fwy na heb yn ddiangen. Mae hynny ar fin newid wrth iddo gael bywyd a phwrpas newydd. Y gobaith yw y bydd adfywiad yr adeilad wedi ei gwblhau erbyn 2022/23 wrth i’r Brifysgol ddathlu ei 150fed pen-blwydd.

Bywyd newydd

Cafodd Prifysgol Aberystwyth gyllid datblygu cychwynnol o £849,500 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2017, oedd yn ei galluogi i symud ymlaen gyda’i chynlluniau a chyflwyno cynnig manwl am y grant llawn.

Nawr, bydd arian a grëwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn golygu y gall yr adeilad annwyl hwn adennill ei le yng nghalon Aberystwyth a’r gymuned leol drwy ddatgelu treftadaeth yr Hen Goleg a fu gynt yn gudd ac yn anodd ei gyrraedd, a thrawsnewid yr adeilad yn ganolfan groesawgar, bywiog a chreadigol – nid yn unig i Aberystwyth ond i Gymru gyfan.

Y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolwraig y DU a chadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru oedd yn gyfrifol am wneud y cyhoeddiad mewn digwyddiad yn yr Hen Goleg heddiw: “Ar ddechrau degawd newydd, pa well newyddion na bod yr Hen Goleg – diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol – ar fin dechrau bywyd newydd.

“Fel nifer o raddedigion Aberystwyth, mae gen i atgofion melys iawn o’r adeilad arwyddocaol iawn hwn, a fu wrth wraidd bywyd a dysgu yng Nghymru am bron i 150 mlynedd. Mae’n cael lle canolog eto nawr – ond y tro hwn, bydd wrth galon y gymuned gyfan – gan greu swyddi, a chynnig lletygarwch, helpu rhoi hwb i’r economi, creu sgiliau a chyfleoedd i’r gymuned, a bydd yn agor ei ddrws i bob math o ddarganfyddiadau a dysgu.

“Bydd hwn yn lleoliad fydd yn croesawu gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, pobl chwilfrydig, greadigol, entrepreneuriaid o bob oed, ac mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn falch iawn i fod yn rhan o’r dadeni hwnnw.”

Ailgreu adeilad ar gyfer y dyfodol

Gyda chymorth gan bobl leol a chynrychiolwyr ifanc sydd wedi bod yn rhan o fwrdd y prosiect, mae ffocws cryf ar ymgysylltu â’r gymuned leol mewn amrywiol weithgareddau, gan y bydd yr adeilad hwn sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael ei ddatblygu fel canolfan ar gyfer gweithgareddau amrywiol gyda gofod arddangos ar gyfer arddangosfeydd, celf a cherddorion, canolfan i entrepreneuriaid a busnesau a stiwdios artistiaid newydd, yn ogystal â chaffi ac ystafelloedd cymunedol, a chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau mawr. Bydd Talwrn Trafod newydd, y gyntaf o’i bath yn y DU, yn atyniad allweddol yn y gofod newydd ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau.

Caiff £3 miliwn hefyd ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru a £3 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth i hybu’r cyfleoedd newydd am dwristiaeth fel yr eglura yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae Hen Goleg Aberystwyth yn adeilad lleol gwerthfawr sy’n cael ei gydnabod fel un o ddarnau pensaernïaeth y diwygiad Gothig mwyaf arwyddocaol y DU.

"Diolch i’n nawdd ni ynghyd â chymorth gan Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yn creu cyrchfan fywiog ar gyfer twristiaeth a dysgu, fydd yn cynnwys gwesty boutique fydd yn cyfoethogi gwerth twristaidd yr ardal hyd yn oed yn fwy, ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer yr adfywiad drwy greu swyddi a hybu’r economi ehangach.

“Wrth i’r Brifysgol agosáu at ei phen-blwydd yn 150 oed, gall yr Hen Goleg gynnig etifeddiaeth barhaol fydd yn hyrwyddo ei threftadaeth ac yn edrych i’r dyfodol yn hyderus.”

Bydd yr Hen Goleg yn gartref i Ganolfan Ddarganfod – Byd Gwybodaeth, fydd yn caniatáu i rywfaint o’r 30,000 gwrthrych sydd fel arfer dan glo i weld golau dydd, a bydd arddangosfeydd gwyddoniaeth yn cynnig dangosiadau rhyngweithiol o’r radd flaenaf ynghyd â gofod AV, fydd yn tynnu sylw at rôl y Brifysgol wrth archwilio’r gofod.

Bydd cyfleusterau i fyfyrwyr a chyfleusterau dysgu gydol oes ar hyd a lled yr adeilad, a bydd sawl gofod i’w rannu a sefydlwyd gyda phobl ifanc o ysgolion lleol a rhanbarthol a sefydliadau ieuenctid ar gyfer gweithgareddau, gwirfoddoli a datblygu gweithgareddau o gwmpas yr holl adeilad.

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Bydd prosiect yr Hen Goleg yn adfer ac yn creu pwrpas newydd i un o adeiladau hanesyddol pwysicaf y genedl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn creu canolfan bwysig ar gyfer diwylliant, dysgu a menter. Ond ar lefel leol bydd yn golygu bod un o’n tirnodau anwylaf yn adennill ei le cyfiawn fel ffocws i weithgarwch cymunedol a gofod gweithio ymarferol fydd yn cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd.

 “Hoffwn longyfarch yr holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i wireddu’r freuddwyd. Hoffwn hefyd ddiolch i’r cyllidwyr am eu cefnogaeth ac am gredu yn ein gwaith, ac i’r bobl o bedwar ban y byd sydd wedi cyfrannu at ein hapêl codi arian a chynhyrchu £1.6 miliwn hyd yn hyn tuag at gostau ein prosiect ac wedi helpu creu momentwm ar adeg dyngedfennol yn ein cynlluniau. Bydd cyhoeddiad heddiw yn gatalydd arwyddocaol wrth inni nesáu at ben-blwydd y Brifysgol yn 150 oed mewn ychydig flynyddoedd a pharhau i godi arian tuag at gyfanswm terfynol y prosiect yn ogystal â chreu cynlluniau gyda ein partneriaid prosiect o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.”

Bydd tua 900 o bobl yn elwa o hyfforddiant mewn treftadaeth, twristiaeth a lletygarwch o ganlyniad i’r ailddatblygiad a bydd rhyw 250 o’r rheiny’n ennill cymwysterau ffurfiol. Yn ogystal â chreu oddeutu 50 swydd newydd a 400 cyfle i wirfoddoli, yn ogystal â phrentisiaethau a phrofiad gwaith, bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd hefyd yn annog graddedigion y brifysgol i aros yn y dref a sefydlu busnesau newydd.

Cyfanswm amcan gost yr ailddatblygiad yw tua £27m, ac mae’r Brifysgol yn ystyried ffynonellau eraill o gyllid i’r prosiect gan gynnwys ail gam ei hapêl mawr i godi arian.