Dull ymchwilydd o adnabod gwendidau Coronafeirws yn llwybr at driniaethau posib

04 Mai 2020

Mae ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth wedi datblygu dull o adnabod gwendidau posibl yn y Coronafeirws, allai gynorthwyo datblygu brechlynnau a thriniaethau cyffur.

Fel rhan o dîm o ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin, cyflwynodd Nicholas Dimonaco, myfyriwr doethuriaeth yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol, i ddigwyddiad ymchwil rhyngwladol y mis hwn.

Daeth y digwyddiad pum niwrnod ag arbenigwyr o ystod eang o feysydd ynghyd, gan gynnwys gwyddonwyr data, ymchwilwyr data a biofeddygol, er mwyn archwilio’r feirws. Roedd tîm Mr Dimonaco ymysg 4 enillydd, allan o dros 1,500 o bobl a ymgeisiodd i fod yn rhan o’r digwyddiad ac yn un o’r ugain tîm a ddewiswyd i wneud cyflwyniadau ffurfiol.

Roedd tîm Mr Dimonaco yn cymharu trawsblygiadau yn y feirws Covid-19 mewn pobl, gyda’r feirysau tebyg mewn ystlumod ac anifeiliaid eraill megis pangolinod. Mae’r ymchwil yn galluogi deall natur y feirws yn well, ac yn cynorthwyo ymchwilwyr eraill i fanteisio ar ei wendidau posib a fyddai o gymorth wrth ddatblygu triniaethau a brechlynnau.

Dywedodd Mr Dimonaco o Brifysgol Aberystwyth:

“Fel tîm, dechreuon ni drwy adnabod y trawsblygiadau sydd yng ngenom Covid-19 mewn pobl ond sydd ddim yn y feirysau tebyg mewn ystlumod, oherwydd eu llinach ganfyddedig. Rydym wedi edrych ar 180 o genomau firaol mewn ystlumod ac wedi manteisio ar ddata a gasglwyd yn Wuhan ac yn yr Almaen am Covid-19 mewn pobl. Drwy adnabod yr amrywiaethau o fewn, a’r tebygrwydd rhwng, y genomau hyn, gobeithio bydd modd i’r miloedd o labordai eraill ddatblygu triniaethau cyffur a brechlynnau posib.

“Oherwydd yr argyfwng iechyd presennol, rydym yn parhau i gwrdd fel tîm yn wythnosol ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi defnyddio offer sydd eisoes yn bodoli er mwyn cyflymu’r broses ymchwil. Rydym yn ddiolchgar am y cymorth rydym wedi ei dderbyn gan y cwmnïau sydd wedi cynnig nawdd ynghyd â chymorth y ddwy brifysgol sydd yn ein cefnogi fel tîm.”

Ychwanegodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau i’r tîm ar eu llwyddiant. Yn yr amseroedd hynod o heriol hyn mae angen i bawb dynnu ynghyd er mwyn cynorthwyo’r ymdrech i daclo’r feirws creulon hwn. Rydym yn falch bod nifer o adrannau, gan gynnwys IBERS, o fewn y Brifysgol yn cydweithio ag eraill er mwyn atal y feirws ynghyd a gwella ein dealltwriaeth ohoni.”

“Mae’r Brifysgol yn cyfrannu mewn amryw o ffyrdd o fewn ein cymuned, yn genedlaethol a thu hwnt gyda’r nod clir o wneud pob dim y gallwn i gynorthwyo’r ymdrechion i fynd i’r afael â Covid-19.”

Derbyniodd tîm Nicholas Dimonaco wobr ariannol fechan a fydd yn eu galluogi i ddatblygu’r gwaith ymhellach. Yr ymchwilwyr eraill sydd yn rhan o dîm Nicholas yw David Parry o Brifysgol Caeredin, Mazdak Salavati a Barbara Shih o Sefydliad Roslin. Mae disgwyl i bapur ymchwil llawn gael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.