Gŵyl y Flwyddyn Olaf yn mynd yn ddigidol

19 Mai 2020

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cyflwyno ffrwyth eu llafur creadigol ar-lein yr wythnos hon wrth i un o ddigwyddiadau blaenllaw'r adran fynd yn gwbl ddigidol am y tro cyntaf.

Mae Gŵyl y Flwyddyn Olaf yn ŵyl ddeuddydd ar-lein newydd sbon o berfformiadau gwreiddiol a ffilmiau byr gan fyfyrwyr Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth a fydd yn cael eu cyflwyno trwy Facebook Live, Instagram Live a YouTube ar ddydd Mawrth 19 a dydd Mercher 20 Mai.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

‘You are here’ gan Hannah Evans sy’n berfformiad sain sy’n archwilio un o sefydliadau mwyaf poblogaidd Aberystwyth. Caewch eich llygaid a dianc gyda Hannah wrth iddi eich tywys trwy’r Royal Pier, gyda chyfle i ollwng yn rhydd yn eich ystafell fyw.

Sioe stand-yp  rhyfedd am dacsis a bysedd traed yw ‘Blue Lips’ gan Eetu Merisaari, wedi’i pherfformio yn fwy o’r Ffindir. Ymunwch ag Eetu a’i deulu wrth iddyn nhw eich croesawu chi i’w cartref, am chwerthin cwarantîn.

Gellir gweld yr amserlen lawn ar wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae Dr Louise Ritchie yn Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformiad. Meddai

“Mae digwyddiad y flwyddyn olaf ar y campws yn sicr yn uchafbwynt yn y calendr ond mae pandemig COVID-19 yn golygu na all ddigwydd yn y fformat arferol eleni. Yn lle hynny, mae'r myfyrwyr wedi arbrofi gyda dulliau a ffyrdd newydd o rannu eu gwaith trwy gynnal Gŵyl y Flwyddyn olaf ar-lein.

Mae penderfyniad y myfyrwyr hyn i ail-ddychmygu eu perfformiadau o dan yr amgylchiadau anodd wedi bod yn rhyfeddol ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eu cyflawniadau dros y dyddiau nesaf.”

Gall cynulleidfaoedd weld ac ymuno â pherfformiadau drwy:

Facebook (finalfestaber): https://www.facebook.com/finalsfestaber

Instagram (@finalsfestaber): https://www.instagram.com/finalsfestaber/

Twitter (@finalfestaber): https://twitter.com/finalfestaber