Aur ac arian i Aberystwyth yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2020

14 Gorffennaf 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn aur ac arian yn nhri o’r prif anrhydeddau yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2020.

Cipiodd Aberystwyth aur yn y categori Ôl-raddedig a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol. Daeth hefyd i’r brig yn y categori Rhyngwladol, ar ôl dwy flynedd yn yr ail safle. Enillodd Aberystwyth hefyd wobr arian yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn, sy’n cwmpasu adolygiadau o bob agwedd o brofiad y myfyriwr.

Bellach yn eu seithfed flwyddyn, mae Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni (WUSCA) yn ddathliad blynyddol o’r prifysgolion a’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y DU. Mae’r canlyniadau ar gyfer y prif gategorïau wedi’u llunio o dros 41,000 o adolygiadau myfyrwyr o 150 o sefydliadau.

Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol IDP Connect sy’n berchen ar WhatUni: “Eleni, mae sgoriau adolygu cyfartalog uchel ar draws holl gategorïau WUSCA yn dangos ymdrech eang gan sefydliadau’r DU i wrando ac ymateb i anghenion myfyrwyr.

“Gyda’r heriau diweddar sy’n wynebu’r sector, mae cael adroddiadau mor uchel o foddhad ar draws yr holl brifysgolion, gan gynnwys y rhai y tu allan i Grŵp Russell mewn categorïau allweddol fel Cwrs a Darlithwyr, yn glod i’r gwerth a’r profiad rhagorol y mae myfyrwyr yn teimlo’u bod yn derbyn yn eu haddysg uwch. Mae hyn yn rhywbeth y dylai'r sector fod yn hynod falch o'i gyflawni a byddai'r canlyniadau rhagorol hyn yn cael eu croesawu mewn llawer o sectorau eraill yn ystod yr amser anodd hwn.”

Dywedodd Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyriwr rhagorol, safon addysgu uchel, ac ansawdd bywyd rhagorol, ac rydym wrth ein bodd bod hyn wedi’i gydnabod gan yr adolygiadau a’r adborth diweddaraf a gasglwyd gan ein myfyrwyr gan dîm Whatuni.”

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF 2019) diweddaraf, Aberystwyth oedd y brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr, ac yn ail yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr. Yn ogystal â’i llwyddiant yn yr ACF, derbyniodd Aberystwyth Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a chafodd ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu canllaw prifysgolion The Times and Sunday Times Good University Guide yn 2018 a 2019.