Hwb i ymchwil y diwydiannau creadigol gyda swydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Matthew Jarvis

Yr Athro Matthew Jarvis

23 Chwefror 2021

Mi fydd hwb i ymchwil ym maes y diwydiannau creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn penodi cymrawd newydd.

Penodwyd yr Athro Matthew Jarvis i rôl newydd Cymrawd Cyfnewid Creadigol yng Nghyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol.

Bydd yr Athro Jarvis yn meithrin cysylltiadau gyda busnes, y drydedd sector ac artistiaid er mwyn datblygu prosiectau yn y dyniaethau a’r celfyddydau creadigol. 

Mae’n cynnwys cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau sy’n gweithio mewn meysydd megis technolegau digidol.

Mae’r penodiad yn rhan o raglen ‘Cryfhau’r Sylfaen Ymchwil’ a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Nod y cynllun yw cryfhau sylfaen ymchwil Cymru a galluogi ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru i ddenu cyfran fwy o gyllid o ar draws y DU.

Daw’r Athro Jarvis â phrofiad helaeth i’w rôl newydd fel cyd-gadeirydd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru a phrif olygydd y cyfnodolyn International Journal of Welsh Writing in English.

Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Barddoniaeth Cymru, yn Gyfaill Beirniadol i Lenyddiaeth Cymru, yn eistedd ar Fwrdd Ymgynghorol Rhwydwaith Moderniaeth Cymru ac yn un o sylfaenwyr Bwrdd Golygyddol y cyfnodolyn Literary Geographies. Mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywedodd Yr Athro Matthew Jarvis, Cymrawd Cyfnewid Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n hynod gyffrous cael gweithio gydag ymarferwyr creadigol ar draws y Brifysgol er mwyn canfod cyfleoedd ymchwil newydd, yn enwedig mentrau sy’n torri tir newydd gydag arbenigwyr digidol. Yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud yma yw galluogi cydweithwyr i ddatblygu prosiectau ymchwil yn y celfyddydau creadigol a’r dyniaethau.  Mae datblygu cysylltiadau agos gyda chyrff allanol allweddol, megis busnesau, elusennau a grwpiau gwirfoddol yn rhan o hynny. Bydd gwneud cysylltiadau – oddi fewn a thu allan i’r Brifysgol - yn rhan fawr o’m rôl i a bydd hynny’n cynorthwyo i greu syniadau newydd. Nod hyn oll yn y pendraw yw sefydlu ‘Rhwydwaith Cyfnewid Creadigol’ a fydd yn cefnogi’r cysylltiadau hollbwysig hyn dros y tymor hir.”

“Mae ymroddiad i’r celfyddydau creadigol wedi bod yn gwbl ganolog i’m gyrfa, p’un ai drwy fy ymchwil fy hun neu fy ymwneud â diwydiannau diwylliannol Cymru. Felly, dyma le mae modd rhoi’r profiadau a’r cysylltiadau hynny ar waith wrth gefnogi fy nghydweithwyr yma yn Aberystwyth. Mae hynny’n fraint aruthrol.”

Ychwanegodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn mai'r Athro Jarvis fydd ein Cymrawd Cyfnewid Creadigol. Mae ganddo gysylltiadau niferus a hirhoedlog ym maes y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac felly bydd modd iddo feithrin cysylltiadau ymchwil cynhyrchiol er mwyn gwreiddio ymchwil digidol ac allbwn creadigol y Brifysgol yn ddyfnach. Fe fydd yn arwain grŵp gorchwyl a fydd yn cynnwys arbenigwyr mewnol ac allanol er mwyn galluogi busnes i fanteisio ar yr ystod eang o ymarferwyr creadigol sydd yn y gyfadran yma yn Aberystwyth.

“Bydd y rôl hon yn adeiladu cysylltiadau cynaliadwy a hir-dymor a ddaw â chyfoeth o gyfleoedd ymchwil, cyfnewid gwybodaeth ac arloesi i fyfyrwyr a staff ar bob lefel.”

Dywedodd Dr Alyson Thomas, Cyfarwyddwr Polisi ac Ariannu yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: “Mae’n wych gweld y swydd newydd yma yn cael ei chreu. Bwriad ein cyllid Cryfhau’r Sylfaen Ymchwil yw cefnogi isadeiledd ymchwil gwydn a chynaliadwy sy’n gallu cynorthwyo gyda’r gwaith o fynd i’r afael ag anghenion economaidd a chymdeithasol. Bydd y swydd hon yn cynorthwyo targedu cyfleoedd newydd ar gyfer ariannu a mwy o gydweithio rhwng y Brifysgol a sefydliadau allanol er mwyn cryfhau diwydiannau diwylliannol a chreadigol bywiog, sydd wedi eu taro cynddrwg gan y pandemig.”