Mesurau lliniaru ychwanegol ar gyfer arholiadau myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Campws Penglais

Campws Penglais

26 Chwefror 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i’w threfniadau arholi ac asesu myfyrwyr o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19, yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr staff a myfyrwyr.

Mewn datganiad ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi cyfres o addasiadau er mwyn lliniaru ar effaith yr argyfwng ar gynnydd addysgiadol myfyrwyr.

Mae’r addasiadau, sy’n dilyn adolygiad, wedi eu llunio er mwyn ymateb i’r heriau sy’n parhau oherwydd y pandemig. Mae'r rhain yn cynnwys dileu'r gofyniad i gyflwyno ffurflenni amgylchiadau arbennig a rhagor o gyfleoedd i ail-sefyll arholiadau.

Nod polisi’r Brifysgol yw sicrhau nad yw myfyrwyr yn dioddef anfantais mewn asesiadau, o ganlyniad i’r pandemig. Fel rhan o’r drefn dim anfantais, mae gan fyfyrwyr sy’n dewis ailsefyll ac sy’n cael dyfarniad nad yw cystal â’r un gwreiddiol, yr hawl i dderbyn y dyfarniad gwreiddiol.

Yn ogystal, fel y llynedd, caiff y prif arholiadau ar y campws eu disodli gan asesiadau amgen ar-lein ac o bell. 

Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Wrth reswm, lles ein myfyrwyr a’n staff yw ein blaenoriaeth wrth ystyried y materion hyn.  Mae pawb wedi wynebu heriau digynsail yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang hwn.  Rydyn ni wedi mabwysiadu’r mesurau lliniaru ychwanegol hyn wedi trafodaethau gyda chynrychiolwyr staff a myfyrwyr. Y nod yw sicrhau ein bod yn cefnogi ein myfyrwyr a’n staff yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn, tra, ar yr un pryd, yn cynnal safonau academaidd uchel y Brifysgol.”

Ychwanegodd Chloe Wilkinson-Silk, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Mae hyn yn newyddion gwych i fyfyrwyr. Hoffem ni ddiolch i’r Brifysgol am wrando a gweithredu ar bryderon myfyrwyr ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r parodrwydd i wrando yn fawr iawn y. Rwy’n siŵr y bydd myfyrwyr yn falch o gael gwybod bod y Brifysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i’w cynorthwyo drwy’r cyfnod hwn sy’n anodd a llawn straen.”