Arbenigwr ar heneiddio wedi ei benodi’n Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dr Charles Musselwhite

Dr Charles Musselwhite

14 Mai 2021

Mae academydd blaenllaw ym maes heneiddio wedi ei benodi i Gadair newydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Mae Dr Charles Mussellwhite yn ymuno â’r Coleg Ger y Lli o Brifysgol Abertawe lle bu’n Athro Cysylltiol Gerontoleg yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol. Cyn hynny, bu’n Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Traffig a Thrafnidiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.

 

Mae gan Dr Mussellwhite, a fydd yn cychwyn yn ei swydd fel Athro ym mis Medi, ddiddordeb arbennig mewn polisi ac arfer cyhoeddus ym meysydd yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth, gan ystyried poblogaeth sy’n heneiddio.

 

Mae ei ymchwil wedi ymwneud ag amryw o brosiectau ynghylch heneiddio, gan gynnwys diogelwch gyrwyr hŷn, a phwysigrwydd symudedd i bobl hŷn.

Mae e’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Gerontoleg Prydain (gwyddor sy’n ymwneud â’r broses o heneiddio) yn ogystal â sylfaenydd a chyd-arweinydd ei Grŵp Diddordeb Arbennig ar symudedd a thrafnidiaeth mewn henaint.

Mae e hefyd yn aelod o Gymdeithas Ryngwladol Seicoleg Gynhwysol, ac yn bartner Partneriaeth Arloesedd Ewrop ar Heneiddio Iach ac Actif.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Dr Charles Musselwhite:

“Rwyf wrth fy modd fy mod i’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel Athro mewn Seicoleg, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y rhagoriaeth gynyddol mewn ymchwil yma.

“Cymhwyso seicoleg i faterion bywyd go iawn sydd angen yr elfen ddynol yn eu canol, dyna yw fy nghefndir, gan dynnu’r seicoleg a daearyddiaeth i mewn lle galla i. Rwy’n arbenigo mewn archwilio materion amgylcheddol megis annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy yn hytrach na’u ceir, ac yn enwedig sut y mae hyn yn mynd yn fwy cymhleth yn sgil newidiadau ffisiolegol a seicolegol wrth i ni heneiddio. Yn benodol, rwyf wedi ymchwilio i sut mae trafnidiaeth, symudedd a’r amgylchedd adeiledig o’n hamgylch yn heriol wrth i ni heneiddio, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.”

 

Ychwanegodd Yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg:

“Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn. Rwy’n falch iawn bod rhywun o safon a phrofiad Dr Musselwhite yn ymuno â ni yma yn Aberystwyth. Bydd ei arbenigedd o fudd mawr i ni yn yr adran ac i’r Brifysgol gyfan.”