Dewis Choice yn derbyn cyllid gan Sefydliad Moondance

Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd y prosiect Dewis Choice a Chyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol

Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd y prosiect Dewis Choice a Chyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mae'r ymchwilwyr Sarah Wydall, Rebecca Zerk ac Elize Freeman wedi derbyn £105,000 gan yr elusen Sefydliad Moondance i gefnogi Menter Dewis Choice, sy'n gweithio gyda phobl hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef o gam-drin domestig. 

Mae Dewis Choice wedi'i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n cynnig yr unig wasanaeth pwrpasol i ddynion, menywod a phobl anneuaidd hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig. 

Yn ogystal â darparu gwasanaeth, mae ymchwilwyr yn cynnal astudiaeth hydredol sy'n edrych ar brofiadau pobl hŷn o’r systemau lles a chyfiawnder troseddol. Mae'r canfyddiadau wedi herio gwybodaeth sy’n bodoli eisoes a chamdybiaethau cyffredin ynglŷn â cham-drin domestig yn hwyrach mewn bywyd a heneiddio.

Yn ystod pandemig Covid-19 mae'r Fenter wedi ymateb i effaith y mesurau gwarchod a chadw pellter cymdeithasol. I rai menywod a dynion hŷn sy'n gwella ar ôl cael eu cam-drin, mae'r cyfyngiadau wedi cael yr effaith o’u trawmateiddio o’r newydd, er enghraifft, dywedodd un dioddefwr-goroeswr 62 oed:"Rwy'n teimlo mor rhwystredig a chyfyngedig, mae'n fy atgoffa o'r cyfyngiadau y byddai ef [ei chyn-ŵr] yn eu gorfodi arnaf pan oeddem yn briod. Rheoli i ble rwy’n mynd, pwy rwy’n gweld a beth y dylwn ei wisgo. Mae'r holl sefyllfa wedi dod â llawer o atgofion yn ôl."

Wrth i'r genedl ddechrau dod allan o gyfyngiadau'r cyfnod clo, bydd y cyllid newydd hwn gan Sefydliad Moondance yn rhoi cyfle i'r tîm ddarganfod beth mae dioddefwyr hŷn ei eisiau. 

Bydd yr ymchwil yn bwydo i'r gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth a ddarperir gyda'r nod o sicrhau arwyddocâd ac effaith ledled y DU. Bydd y canfyddiadau'n cynyddu sylfaen wybodaeth ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr ac yn darparu tystiolaeth ynglŷn â sut i greu atebion cynaliadwy.

Dywedodd Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd y prosiect Dewis Choice a Chyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol: "Rydym yn croesawu'r cyllid hwn gan Sefydliad Moondance, a fydd yn cael ei ddefnyddio i greu hyfforddiant, e-adnoddau a phecynnau cymorth newydd wedi’u harwain gan ymchwil ar gyfer y sector gwirfoddol a gofal. Drwy gyfnewid gwybodaeth ac arloesi, bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar sut y gall gweithwyr cymunedol adnabod ac ymateb i ddatgeliadau o gam-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd yr ymchwil yn cyfrannu at strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol i gynorthwyo cymunedau drwy wella dulliau canfod, atal ac ymyrryd yn gynnar. Nod yr astudiaeth yw gwneud ymatebion ymarferwyr yn fwy effeithiol drwy greu gofod mwy diogel a chefnogol i bobl hŷn sy’n datgelu eu bod yn neu wedi dioddef cam-drin domestig"

I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Dewis Choice, gweler: www.dewischoice.org.uk neu dilynwch nhw ar Twitter @choiceolderppl.

Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig neu'n poeni am rywun rydych yn eu hadnabod, mae help a chymorth ar gael. Gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael gwybodaeth rhad ac am ddim a chyfrinachol 0808 80 10 800.