Cyflymu bridio Miscanthus er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd

Miscanthus mewn cae ym Mhrifysgol Aberystwyth

Miscanthus mewn cae ym Mhrifysgol Aberystwyth

25 Awst 2021

Bydd gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i fabwysiadu techneg i gyflymu bridio Miscanthus mewn ymdrech i gwrdd â thargedau newid hinsawdd fel rhan o becyn gwerth £4 miliwn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i hybu cynhyrchu biomas.

Diolch i fuddsoddiad gan Raglen Arloesi Porthiant Biomas Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, bydd ymchwilwyr yn paratoi’r achos dros integreiddio techneg o'r enw dethol genomig i raglen fridio Miscanthus.

Glaswellt lluosflwydd cynhyrchiol iawn yw Miscanthus sy'n gofyn am fewnbynnau isel iawn ac mae'n cael ei fridio gan wyddonwyr yn Aberystwyth fel cnwd biomas.

Mae'n cynhyrchu 12-15 tunnell o fiomas bob blwyddyn hyd yn oed wrth dyfu ar dir sy'n llai addas ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae'n cael ei gynaeafu yn y gwanwyn ac ar hyn o bryd mae'r biomas yn cael ei anfon i orsafoedd pŵer i gynhyrchu trydan adnewyddadwy.

Mae bridio planhigion yn broses o groesi planhigion rhiant sydd â nodweddion dymunol penodol, er mwyn creu epil â nodweddion gwell. Yn achos Miscanthus, mae'r nodweddion hyn yn cynnwys cynnyrch biomas, y gallu i wrthsefyll sychder a rhew, ac addasrwydd ar gyfer tyfu gyda mewnbynnau maetholion isel.

Esboniodd Dr Judith Thornton o Brifysgol Aberystwyth: “Mae dethol genomig yn ffordd o gyflymu cam allweddol o’r broses fridio. Y syniad yw creu model o sut mae marcwyr moleciwlaidd yng ngenom y planhigyn yn gysylltiedig â nodweddion corfforol yn y planhigyn yn ei lawn dŵf. Yna bydden ni’n defnyddio'r model hwn i ragweld pa mor dda fydd planhigyn, tra ei fod yn eginblanhigyn, yn lle gorfod aros iddo aeddfedu yn blanhigyn sy'n oedolyn. Byddai hyn yn caniatáu inni gyflymu datblygiad mathau newydd o Fiscanthus sy'n fwy cynhyrchiol ac yn addas ar gyfer ystod o amodau amgylcheddol a senarios hinsawdd yn y dyfodol.

“Mae ynni biomas a threfn dal a storio carbon yn elfennau allweddol o fyw o fewn cyllideb garbon y DG er mwyn cwrdd â thargedau sero net. O'i ddefnyddio fel hyn gall biomas Miscanthus ddarparu nid yn unig drydan adnewyddadwy ond hefyd y gostyngiad mewn allyriadau sydd ei angen er mwyn dadgarboneiddio'r economi. Os gallwn ni wella'r amrywiaethau Miscanthus sydd ar gael ar y farchnad, bydd y gwaith o gwrdd â chyllidebau carbon yn llawer haws.

“Mae dilyniannu genomau wedi creu chwyldro yn y gwyddorau bywyd. Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn rhan o ymdrech ryngwladol i ddilyniannu genom Miscanthus, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at allu manteisio ar y wybodaeth hon i fynd i’r afael â newid hinsawdd, tra hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddiwydiant.

“Gallai integreiddio dethol genomig i’n proses fridio fod yn drawsnewidiol. Ond yn sicr dyw hi ddim heb ei heriau. Bydd yr arian hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn caniatáu inni dreulio'r ychydig fisoedd nesaf yn gweithio ar gostau a logisteg defnyddio dethol genomig wrth fridio Miscanthus. Rydym yn gobeithio gallu cyflwyno'r achos dros brofi’r dechneg dros y tair blynedd nesaf. Gyda chynhadledd hinsawdd COP26 yn Glasgow yr hydref hwn, mae’r ymchwil hwn yn cynnig rhagor o gyfleoedd rhagorol i’r Deyrnas Gyfunol ddangos ei harweinyddiaeth fyd-eang.”

Ychwanegodd Gweinidog Ynni'r DU, yr Arglwydd Callanan: “Mae gweithio i ddatblygu mathau newydd a gwyrddach o danwydd fel biomas yn rhan bwysig o adeiladu’r gymysgedd ynni amrywiol a gwyrdd y bydd ei angen arnom er mwyn cwrdd â’n targedau newid hinsawdd.

“Rydym yn cefnogi arloeswyr yn y DG i sicrhau bod gennyn ni gyflenwad o ddeunyddiau biomas cartref, sy'n rhan o'n cynlluniau ehangach i barhau i leihau allyriadau carbon wrth i ni adeiladu'n ôl yn wyrddach.”