Darlith gyhoeddus ar olygu testunau canoloesol

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

07 Hydref 2021

Eleni bydd Darlith Goffa David Trotter yn ymdrin â golygu testunau a ysgrifennwyd yn yr iaith Eingl-Normanaidd.

Dan nawdd Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth, traddodir darlith eleni gan yr Athro Daron Burrows o Brifysgol Rhydychen, ddydd Iau28 Hydref 2021 am 6pm. Cynhelir y ddarlith ar-lein, sy’n agor y digwyddiad i gynulleidfa ehangach.

Athro Ffrangeg Ganoloesol ym Mhrifysgol Rhydychen yw’r Athro Burrows, y mae’n Gymrawd o Goleg St Peter, ac yn arbenigwr ar iaith a llenyddiaeth Ffrangeg ac Eingl-Normanaidd y Canoloesoedd. Ef yw Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Testunau Eingl-Normanaidd a Chadeirydd Bwrdd Ymgynghorol y Geiriadur Eingl-Normanaidd.

Bydd ei ddarlith,‘On Editing Anglo-Norman Texts: The Verse Psalter, for example’, yn darlunio ei arbenigedd trwyadl yn golygu testunau canoloesol a ysgrifennwyd yn yr iaith Eingl-Normanaidd – yr amrywiad ar yr iaith Ffrangeg a ddefnyddiwyd ym Mhrydain yn y Canoloesoedd ac a dreiddiodd i gymaint o ddiwylliant Prydeinig.

Meddai Dr Gabor Gelleri, o Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth: “Mae Darlith Goffa David Trotter yn un o uchafbwyntiau’r Adran hon bob blwyddyn academaidd. Fe’i sefydlwyd yn 2016 i anrhydeddu gwaith ac etifeddiaeth yr Athro David Trotter, cyn Bennaeth yr Adran, ysgolhaig adnabyddus ledled y byd ar hanes ac amrywiadau rhanbarthol yr iaith Ffrangeg, a chrëwr tîm y Geiriadur Eingl-Normanaidd yn yr adran.

“Eleni, mae’n bleser gennym groesawu arbenigwr amlwg ym maes llenyddiaeth Eingl-Normanaidd ac ieitheg, yr Athro Daron Burrows o Rydychen, a fydd yn rhannu â ni ei brofiad o olygu’r Psalter mydryddol Eingl-Normanaidd. Mae sgyrsiau blaenorol yn yr un gyfres i’w cael yn y gadwrfa Eingl-Normanaidd: https://anglo-norman.net/memorial-lecture-introduction.”

Roedd yr Athro David Trotter yn awdurdod rhyngwladol blaenllaw ar yr iaith Ffrangeg a’i geiriaduraeth, yn gyn lywydd y Société de Linguistique Romane, ac yn aelod gohebol o’r Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis. Graddiodd o Goleg y Frenhines Rhydychen, ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 1993, a bu’n Athro Ffrangeg ac yn Bennaeth Adran am dros ddau ddegawd. Ef oedd Prif Olygydd y Geiriadur Eingl-Normanaidd rhwng 2002 a 2015.

Cynhelir Darlith Goffa David Trotter 2021, ‘On Editing Anglo-Norman Texts: The Verse Psalter, for example’, ar-lein am 6pm ddydd Iau 28 Hydref. Mae’r ddarlith yn agored i unrhyw un o’r cyhoedd, myfyrwyr a staff a hoffai ymuno, a gofynnir iddynt e-bostio ieithoeddmodern@aber.ac.uk er mwyn cael gwahoddiad Microsoft Teams.