Gwaith gosod newydd yn adrodd hanesion ffoaduriaid yng Nghymru

20 Hydref 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gweithio gyda'r awdur plant, Michael Rosen i roi bywyd i brofiadau personol rhai o'r ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf.

Bydd eu straeon unigryw yn ffurfio rhan o waith gosod digidol ac yn cael eu rhannu ochr yn ochr â delweddau, gwrthrychau a fideo, mewn arddangosfa bwysig sy'n agor heddiw yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain, ac yna'n mynd ar daith i rannau eraill o Brydain, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn 2022.

Yn rhan o Orielau newydd yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost yn yr Amgueddfa, cafodd yr hanesion sy'n rhan o'r gwaith gosod eu cynhyrchu ar y cyd ag ymchwilwyr yng Nghanolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth a rhai o drigolion Ceredigion, a'u hysgrifennu gan Michael Rosen. 

Fel yr eglura Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r recordiad a draddodir gan Rosen yn croestorri nifer o hanesion - yn cynnwys stori tad Rosen a ddaeth i Aberystwyth yn efaciwî, ewyrth o Ffrainc a lofruddiwyd yn yr Holocost, stori plant sy'n ffoaduriaid yn dianc rhag Sosialaeth Genedlaethol ddiwedd y 1930au, a phrofiadau ffoaduriaid modern o Syria sydd wedi ymgartrefu yng Ngheredigion.

"Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cadw’u straeon personol. Mae cynifer o wersi i'w dysgu o'r gorffennol, gwersi a allai ein cynorthwyo i ddeall a llunio ein hymatebion i heriau heddiw, sy'n cynnwys hiliaeth, gwrth-semitiaeth a thrallod ffoaduriaid."

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o wyth o sefydliadau ledled y Deyrnas Gyfunol sy'n archwilio themâu'r Ail Ryfel Byd a'r Holocost yn eu gwledydd a'u rhanbarthau, yn rhan o Raglen Bartneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost, a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dangosir y gwaith gosod yn yr Amgueddfa Ryfel yn Llundain tan fis Rhagfyr 2021 cyn mynd ar daith i leoliadau holl bartneriaid y prosiect, sy'n cynnwys safleoedd yng Nghernyw, yr Alban, a Phrifysgol Huddersfield, cyn mynd nôl i'w gartref parhaol yn yr Amgueddfa Ryfel.

Bydd i'w weld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn yr Hydref 2022, yn rhan o arddangosfa ar Ffoaduriaid rhag Sosialaeth Genedlaethol yng Nghymru, wedi'i churadu ar y cyd gan dîm ymchwil y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, pobl sy'n ffoaduriaid eu hunain ar hyn o bryd, a rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid heddiw i ailsefydlu'n lleol.