Derbynnydd diweddaraf Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Prifysgol Aberystwyth a Thref Aberystwyth wedi’i chyhoeddi

Rheolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Antonio Corbisiero (chwith) a Kieran Booker, deiliad Phrifysgol Aberystwyth ac Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

Rheolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Antonio Corbisiero (chwith) a Kieran Booker, deiliad Phrifysgol Aberystwyth ac Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

02 Tachwedd 2021

Kieran Booker, myfyriwr 18 oed sy'n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yw'r myfyriwr diweddaraf i dderbyn Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

Ysgoloriaeth yw hon i bêl-droedwyr talentog, gwrywaidd neu benywaidd, sy'n chwarae i dîm cyntaf Tref Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru a hefyd i dîm pêl-droed BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) Prifysgol Aberystwyth wrth astudio yn y Brifysgol.

Mae'r ysgoloriaeth yn werth £4,000, ac mae ganddi lu o fanteision ychwanegol gan gynnwys aelodaeth Blatinwm o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau hyfforddi pêl-droed, yswiriant meddygol, gwasanaeth ffisiotherapydd, a chitiau ar gyfer y gemau ac ar gyfer hyfforddi.

Yn ôl Kieran o Donyrefail yn Rhondda Cynon Taf, a ymunodd â'r Brifysgol y tymor hwn: "Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn. Rwyf wastad wedi bod eisiau chwarae pêl-droed ar y lefel uchaf, ac mae gallu chwarae ar y lefel hon gydag Aberystwyth yn deimlad gwych ac yn gryn gamp i mi. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n galed gyda Thref Aberystwyth ond hefyd at weithio yr un mor galed yn y Brifysgol. Rydw i wir yn mwynhau fy nghwrs hyd yma ac rwyf wedi cwrdd â llu o ffrindiau newydd. Rwy'n llawn cyffro ynghylch yr hyn sydd o'm blaen eleni gyda chlwb Tref Aberystwyth a'r Brifysgol."

Ac yntau wedi ennill yr ysgoloriaeth, mae Kieran yn dilyn yn ôl traed cyn-enillwyr yr ysgoloriaeth, Mathew Jones, Alex Pennock a Joshua Beard.  Bu i ddeiliad cyntaf yr ysgoloriaeth hon, Mathew Jones, sydd eisoes wedi chwarae dros gan gwaith i CP Tref Aberystwyth, raddio o'r Brifysgol eleni.

Mae'r ysgoloriaeth yn cael ei hariannu ar y cyd gan CP Tref Aberystwyth a Chronfa Aber y Brifysgol, sy'n elwa yn sgil cyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ym mhedwar ban byd.

Yn ôl Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Donald Kane, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth: “Ar ran Clwb Pêl-Droed Tref Aberystwyth, carwn longyfarch Kieran ac estyn croeso cynnes iddo yng Nghoedlan y Parc. Bydd Kieran yn dysgu yn gyflym ei fod wedi ymuno â chlwb gwych sy’n chwarae yn adran uchaf pêl-droed Cymru ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn mwynhau ei brofiad gyda ni a’i gael yn werth-chweil. Bydd Kieran hefyd yn ymuno â phrifysgol anhygoel sy’n rhoi cyfle gwych i’w myfyrwyr i fwynhau’r profiad yn Aberystwyth, lle y mae cynifer, fel myfi, yn cael cystal amser nes eu bod nhw’n aros yma am byth.”

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: "Rwy'n llongyfarch Kieran ar ddod yn dderbynnydd diweddaraf Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth. Mae'r ysgoloriaeth yn arwydd o'r berthynas hir rhwng y Brifysgol a chlwb pêl-droed Aber - perthynas sy'n ymestyn yn ôl ymhell dros ganrif, ac mae'n gyfle gwych i bêl-droedwyr talentog sydd eisiau chwarae pêl-droed ar lefel uchel tra byddant yn parhau â'u hastudiaethau. Llongyfarchiadau hefyd i ddeiliad cyntaf yr ysgoloriaeth, Mathew Jones, sydd bellach wedi cwblhau ei radd yn y Brifysgol ac ymuno â theulu cyn-fyfyrwyr Aberystwyth."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yw 15 Gorffennaf 2022.  Mae manylion llawn a'r ffurflen gais ar-lein i'w cael fan hyn: www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/ug-studies/scholarships/. Mae croeso hefyd i ymgeiswyr gysylltu â CP Tref Aberystwyth i drafod eu haddasrwydd: abertownfc@live.co.uk