Academydd o Aberystwyth yn cipio gwobr llyfr Cymdeithas Seicoleg Prydain

Dr Martine Robson

Dr Martine Robson

08 Rhagfyr 2021

Mae llyfr a ysgrifennwyd ar y cyd gan academydd o Brifysgol Aberystwyth sy'n trafod sut mae'r awydd i fenywod fyw'r bywyd da ynghlwm wrth ddisgwyliadau sy'n normaleiddio perffeithrwydd sydd tu hwnt i gyrraedd wedi ennill gwobr am y monograff academaidd gorau yng ngwobrau llyfrau Cymdeithas Seicoleg Prydain.

Mae Martine Robson, Darlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Sarah Riley, cyn-Ddarllenydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sydd bellach yn Athro mewn Seicoleg Iechyd Critigol ym Mhrifysgol Massey yn Seland Newydd, ac Adrienne Evans, Darllenydd ym Mhrifysgol Coventry, yn gyd-awduron  ar y gyfrol ‘Postfeminism and Health: Critical Psychology and Media Perspectives’, a gipiodd y wobr anrhydeddus ddoe (6 Rhagfyr).

Mae’r gyfrol, sy’n bathu’r term ‘iechydiaeth ôl-ffeministaidd', yn archwilio sut y gall y newid i gymdeithas sydd ag obsesiwn am iechyd fod yn wrthgynhyrchiol i fenywod, p'un ai mewn perthynas â hunangymorth, pwysau, rhyw, beichiogrwydd neu feysydd eraill. Mae’r gyfrol yn defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn o ystod eang o’r cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol i ddangos sut y gall y newid diweddar o ffocws ar harddwch i iechyd (a welir mewn cysyniadau fel 'cryf yw'r tenau newydd' a 'bwyta'n lân') fod yn fwy o broblem nag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Mae hefyd yn archwilio'r ffyrdd cadarnhaol y mae menywod yn ymdopi â'r disgwyliadau hyn, yn ymateb iddynt ac yn eu gwyrdroi, gan gynnig cyfeiriadau ar gyfer dyfodol mwy gobeithiol.

Yn ôl Cymdeithas Seicolegol Prydain, mae'r wobr monograff academaidd "yn dathlu gwaith ysgolheigaidd o bwys sydd wedi cyfrannu at, diffinio neu ailddiffinio maes o wybodaeth seicolegol".

Meddai Robson: “Mae fy nghyd-awduron a minnau wrth ein bodd gyda’r wobr hon. Mae'r llyfr yn bwysig oherwydd ei fod yn cynnig ffyrdd o ddeall a meddwl trwy rai o'r anawsterau a'r cyfyng-gyngor sy'n bodoli i fenywod yn ein byd modern cymhleth.

“Mae'r materion hyn yn effeithio arnom bob dydd ac mae'n bwysig eu deall. Er gwaethaf yr hyn a gyflawnwyd ac sy’n cael ei gyflawni gan y mudiadau ffeministaidd presennol, mae heriau enfawr o hyd i iechyd a lles menywod yn fyd-eang. Mae'n hanfodol ein bod yn ymchwilio i’r maes hwn ac mae'n wych bod pwysigrwydd y pwnc a'n dull ‘seicoleg gritigol’ ni yn cael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.”

Dywedodd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg: “Mae'r BPS mor bwysig i'n maes ni ac mae’r wobr hon yn anrhydedd o fri rhyngwladol i Martine ac i'r adran. Mae'r wobr yn adlewyrchu'r ymchwil ragorol o safon byd sy'n digwydd yn yr adran, ac rydw i wrth fy modd dros Martine - mae hi wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyflawni hyn ac rydw i mor falch o weld ei gwaith yn cael ei gydnabod fel hyn.”