Cyllid ar gyfer ymchwil i ddiogelu sifiliaid diarfog mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro

Mae mudiadau sifil diarfog fel Timau Diogelu Menywod De Sudan y Nonviolent Peaceforce yn gweithio i sicrhau diogelwch corfforfol mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro treisgar. Cydnabyddiaeth llun: Nonviolent Peaceforce.

Mae mudiadau sifil diarfog fel Timau Diogelu Menywod De Sudan y Nonviolent Peaceforce yn gweithio i sicrhau diogelwch corfforfol mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro treisgar. Cydnabyddiaeth llun: Nonviolent Peaceforce.

18 Ionawr 2022

Mae rhwydwaith ymchwil rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyllid i brosiectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddiogelu sifiliaid diarfog mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro.

Mae rhwydwaith Creu Man Diogelach yn gweithio ar y cyd â chymunedau mewn rhanbarthau sy'n cael eu heffeithio gan wrthdaro i wella a chryfhau galluoedd sifiliaid i’w diogelu eu hunain ac eraill. Ei nod hefyd yw creu mannau diogelach lle gall cymunedau greu seilwaith ar gyfer heddwch a datblygu cynaliadwy.

Fel yr esbonia Berit Bliesemann de Guevara, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Yn ôl Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, erbyn hyn mae 68.5 miliwn o bobl - y ffigur uchaf erioed - wedi'u dadleoli drwy rym oherwydd gwrthdaro treisgar, a sifiliaid sy'n cael eu lladd mwy na neb arall mewn gwrthdaro o'r fath. ⁠Mae diogelu sifiliaid rhag niwed corfforol mewn rhyfel a thrais gwleidyddol arall felly ymhlith materion pwysicaf ein hoes. 

"Mae ein rhwydwaith ymchwil Creu Man Diogelach yn canolbwyntio ar sifiliaid yn diogelu ei gilydd, heb ddefnyddio grym, neu fygwth defnyddio grym. Gall cefnogi a gwella ffyrdd di-drais o ddiogelu pobl gan sifiliaid diarfog dorri cylchoedd trais. Felly, gall gyfrannau at sicrhau heddwch yn y tymor hwy.”

"Fel rhwydwaith ymchwil, edrychwn ymlaen yn fawr at allu gwahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil a fydd yn gwella ein dealltwriaeth am ddiogelu sifiliaid diarfog a hunan-ddiogelu fel strategaethau diogelu effeithiol rhwng sifiliaid; a sut y gellir cryfhau'r arferion hyn i greu lle mwy diogel i fwy o bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro."

Mae rhwydwaith Creu Man Diogelach yn bwriadu ariannu 15-20 o brosiectau ymchwil a fydd yn amrywio o £20,000 i £100,000 ac a fydd yn para rhwng 6 a 16 mis. Rhaid i brosiectau gael eu harwain gan sefydliadau yn y DU neu mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig (LMICs).

Mae rhagor o wybodaeth am y grantiau, a sut i wneud cais ar gael yn: https://creating-safer-space.com. Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw’r 15fed o Ebrill 2022.

Mae'r rhwydwaith Creu Man Diogelach yn cydweithio â chymunedau mewn rhanbarthau sy'n cael eu heffeithio gan wrthdaro yng Ngholombia, Myanmar, Ynysoedd y Philipinos, De Sudan ac mewn mannau eraill yn Ne’r Byd. Mae hefyd yn dwyn ynghyd nifer o randdeiliaid gan gynnwys sefydliadau diogelu sifiliaid diarfog cenedlaethol a rhyngwladol, academyddion, artistiaid, newyddiadurwyr a gwneuthurwyr ffilmiau, ynghyd â’r gymuned bolisi ryngwladol ehangach.

Arweinir Creu Man Diogelach gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â Phrifysgol Antioquia (Colombia), Prifysgol Chulalongkorn (Gwlad Thai), Prifysgol Dinas Efrog Newydd (UDA), Prifysgol Durham, Prifysgol Leeds Beckett a Phrifysgol Strathmore (Kenya).

Ariennir Creu Man Diogelach gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) Ymchwil yr UKRI. Mae'r cyllid yn rhan o'r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, cronfa gwerth £1.5 biliwn sy'n cefnogi ymchwil ac arloesedd o’r radd flaenaf ac sy'n mynd i'r afael â'r materion byd-eang y mae gwledydd datblygol yn eu hwynebu.