Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi rygbi ar lawr gwlad

Yn y llun mae Nerys Hywel, Cadeirydd y Clwb yn derbyn y crysau newydd timoedd Ieuenctid ac Athletic Clwb Rygbi Aberystwyth oddi wrth yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth. Yn y llun hefyd mae rhai o’r chwaraewyr, gan gynnwys Capten y Clwb Arwel Lloyd a’r Is-Gapten Matthew Hughes .

Yn y llun mae Nerys Hywel, Cadeirydd y Clwb yn derbyn y crysau newydd timoedd Ieuenctid ac Athletic Clwb Rygbi Aberystwyth oddi wrth yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth. Yn y llun hefyd mae rhai o’r chwaraewyr, gan gynnwys Capten y Clwb Arwel Lloyd a’r Is-Gapten Matthew Hughes .

04 Chwefror 2022

Ar drothwy gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad 2022 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cytundeb nawdd newydd i gefnogi rygbi ar lawr gwlad yn y gymuned leol.

Bydd y cytundeb tair blynedd newydd yn gweld y Brifysgol yn cefnogi Clwb Rygbi Aberystwyth fel noddwr crys timau Ieuenctid ac Athletig y clwb, sydd wedi ei ail-lansio’n ddiweddar.

Sefydlwyd Clwb Rygbi Aberystwyth ym 1947 ac mae’n dathlu 75 mlwyddiant eleni.  Mae dros 270 o aelodau gan y clwb sy’n chwarae i dimoedd o bob oedran, o rhai dan 7 i’r tîm cyntaf, sy’n mwynhau tymor hynod lwyddiannus arall yng Nghynghrair 1 Gorllewin Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym  yn falch iawn ein bod yn noddi Clwb Rygbi Aberystwyth. Mae’r Brifysgol yn rhan annatod o’r gymuned, ac mae’r dref wedi croesawu cenedlaethau o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd gyda breichiau agored ers i’r Hen Goleg agor ei ddrysau am y tro cyntaf 150 mlynedd yn ôl. Mae Clwb Rygbi Aberystwyth yn un o’r llu o glybiau a chymdeithasau yn y dref sydd wedi rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr ddod yn rhan o’r gymuned leol, profiadau sydd mor werthfawr a ffurfiannol, ac sydd mor aml yn cael eu hadlewyrchu mewn cariad gydol oes at y dref a’r Brifysgol. Mae’n addas felly ein bod yn cefnogi timau Ieuenctid ac Athletig y clwb, a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig i’n myfyrwyr.”

Mae Nerys Hywel, Cadeirydd Clwb Rygbi Aberystwyth wedi croesawu'r cyhoeddiad. Meddai: “Mae Clwb Rygbi Aberystwyth yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am nawdd caredig i’n Clwb. Dros y blynyddoedd mae llawer o fyfyrwyr a staff y Brifysgol wedi hyfforddi neu chwarae i’r clwb ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn parhau ac at groesawu cenhedlaeth newydd i fod yn rhan o’n teulu rygbi.”

Mae’r gefnogaeth i Glwb Rygbi Aberystwyth yn adeiladu ar bartneriaeth y Swyddog Rygbi Cymunedol a sefydlwyd gan y Brifysgol ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r rôl, sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, yn hyrwyddo datblygiad rygbi o fewn y Brifysgol yn ogystal â chlybiau ac ysgolion lleol, ac yn annog myfyrwyr i feithrin cysylltiadau â chlybiau yn y gymuned.

Y Swyddog presennol yw Lewis Ellis-Jones, cyn-aelod o Academi’r Scarlets, tim dan 20 Cymru a Chlwb Rygbi Aberystwyth, ac sy’n chwarae rygbi ar lefel lled-broffesiynol gyda Chlwb Rygbi Abertawe.