Cynhadledd Lovelace yn dathlu merched ym myd cyfrifiadura yn 15 oed

Rhai o'r bobl a fynychodd BCSWomen Lovelace Colloquium 2020, a gynhaliwyd ar-lein hefyd.

Rhai o'r bobl a fynychodd BCSWomen Lovelace Colloquium 2020, a gynhaliwyd ar-lein hefyd.

05 Ebrill 2022

Bydd y BCSWomen Lovelace Colloquium, y gynhadledd gyntaf o'i math i ferched sy’n astudio cyfrifiadura, yn 15 oed y wythnos nesaf.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein ar 13 Ebrill. Bydd Rebecca George, cyn-Lywydd y BCS (y Sefydliad Siartredig TG) a chadeirydd annibynnol Bwrdd Diwygio Sgiliau'r Adran Addysg (a phrif siaradwr y gynhadledd) yn annerch.

Sefydlwyd y gynhadledd yn 2008 gan Dr Hannah Dee, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Cyfrifiadureg. Ei nod yw gwella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ym myd cyfrifiadureg drwy roi llwyfan i ferched sy’n astudio technoleg i ddysgu gan fenywod sydd wedi cael cryn lwyddiant yn y maes ac i rwydweithio â chyflogwyr.

Enwyd y gynhadledd ar ôl y mathemategydd arloesol Ada King, Iarlles Lovelace. O ganlyniad i’w gwaith ar y cyfrifiadur diben cyffredinol cyntaf yn y 19eg ganrif, cofir yn annwyl amdani fel y rhaglennydd cyntaf.

Trefnwyd y digwyddiad eleni gan Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a sefydliadau eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Un o'i nodau yw sicrhau bod digon o esiamplau o ferched sy’n gwneud pethau diddorol ym maes technoleg a rhoi cyfle i bobl i ddysgu am eu gyrfaoedd a'u profiadau.

Ymhlith y siaradwyr eraill mae Nicola Martin o gwmni AI Adarga, yr Athro Heidi Christensen o Brifysgol Sheffield, Muna Venning o'r llwyfan prosesu taliadau NMI a Silvia Cruciani o Ocado Technology.

Gall pobl hefyd gael cyngor ynglŷn â’r ffordd orau o ddilyn gyrfa yn y maes hwn a dysgu sgiliau defnyddiol drwy ddetholiad o sgyrsiau byrion.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cyflwyno eu gwaith mewn sesiwn bosteri estynedig, a bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn pedwar categori (myfyrwyr blwyddyn 1af, 2il flwyddyn, blwyddyn olaf a myfyrwyr MSc). Mae'r cyflwyniadau hyn yn ymdrin â phynciau, gwaith a thueddiadau yn y sector cyfrifiadureg. Yn aml, y rhain yw’r cyfle cyntaf gaiff myfyrwyr i gyflwyno’u gwaith y tu allan i'w prifysgolion eu hunain.

Dywedodd Dr Hannah Dee: "Doeddwn i ddim yn meddwl pan gynhaliais y Colocwiwm cyntaf yn 2008, pan wobrwywyd ein 50 o gynadleddwyr â baguettes o archfarchnad leol, y byddai'r digwyddiad yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech i annog menywod i ddilyn gyrfaoedd ym myd cyfrifiadureg 14 mlynedd yn ddiweddarach. Yn aml, mae merched sy’n astudio yn y maes hwn yn sylweddoli mai nhw yw’r unig ferch yn yr ystafell, ac felly mae'n wych gallu gwrthdroi’r gymhareb honno am un diwrnod o’r flwyddyn.”

Dyma'r drydedd gynhadledd i'w chynnal ar-lein yn sgil pandemig COVID-19. Bu dros 200 o bobl yn rhan o’r gynhadledd y llynedd a daeth 15 o gwmnïau ynghyd yn yr ardal a neilltuwyd i gyflogwyr.

Fe'i noddir gan Ocado Technology, NMI, y gwasanaethau diogelwch (GCHQ, MI5 a MI6), Amazon, JP Morgan, canolfan ddoethurol AIMS Prifysgol Rhydychen, STFC, Airbus, ac AND Digital.