Ymchwil yn dangos y gall deilen o Affrica a ddefnyddir mewn diod draddodiadol drin clefyd y crymangelloedd

Dr Adeniyi gyda dail y Christmas Bush

Dr Adeniyi gyda dail y Christmas Bush

11 Gorffennaf 2022

Mae cemegyn o ddeilen sy’n cael ei defnyddio mewn diod draddodiadol yn Affrica yn driniaeth effeithiol ar gyfer afiechyd genetig sy’n effeithio ar filiynau o bobl o amgylch y byd, yn ôl ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r ddiod ‘tonig gwaed’ yn gyffredin mewn ardaloedd o orllewin Affrica ac wedi'i gwneud â dail o’r planhigyn Christmas Bush, yn cael ei ddefnyddio gan ddioddefwyr anemia’r crymangelloedd, clefyd genetig sy'n achosi newidiadau i’r protein sy'n cario ocsigen mewn celloedd gwaed coch dynol.

Mae’r cyflwr yn achosi i gelloedd coch y gwaed newid siâp i ffurf ‘cryman’, gan eu hatal rhag gweithio’n iawn, gan achosi marwolaeth llawer o’r celloedd coch.

Gall y clefyd arwain at newid yn llif y gwaed, poen difrifol, pwysedd gwaed uchel, niwed i feinwe a marwolaeth. Gall hefyd arwain at enedigaeth farw.

Mae canfyddiadau’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y Journal for Clinical Research, yn nodi cemegyn allweddol o ddail y Christmas Bush a all wrthdroi crymu celloedd gwaed coch.

Mae’r cyflwr yn effeithio ar dros ugain miliwn o bobl ledled y byd - gan gynnwys gwledydd yng Ngorllewin Affrica, y Caribî, De America ac India – ac amcangyfrifir bod cyfraddau marwolaethau ymhlith babanod o yn 15.3%, a 43.3% ymhlith plant dan 10 mlwydd oed.

Yn Nigeria yn unig, mae tua 150,000 o blant yn cael eu geni gydag anemia y crymangelloedd bob blwyddyn, gyda hanner ohonynt yn debygol o farw cyn eu pen-blwydd yn 10 oed.

Defnyddir sudd o ddail y planhigyn Christmas Bush i wneud y ‘tonic gwaed’, sy’n cael ei ddefnyddio i drin symptomau anemia’r crymangelloedd.

Fodd bynnag, doedd dim prawf o effeithiolrwydd y cemegyn yn y dail nes cyhoeddi canlyniadau'r ymchwil hwn gan wyddonwyr yng Nghymru, Tsieina a Nigeria.

Roedd y biolegydd moleciwlaidd, Dr Olayemi Adeniyi, sydd ei hun yn dioddef o anemia’r crymangelloedd, yn un o'r ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a wnaeth y darganfyddiad.

Dywedodd Dr Adeniyi:

“Mae’r afiechyd hwn yn pwyso’n drwm iawn ar bobl mewn llawer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Nigeria, a gobeithio y bydd y papur hwn yn rhoi hyder i bobl fod modd i’w reoli. Hyd yn hyn ni fu unrhyw brawf gwyddonol o effeithiolrwydd y planhigyn.

“Mae’r ymchwil yn arbennig o bwysig oherwydd bod cymaint o bobl sydd wedi’u heffeithio gan glefyd y crymangelloedd yn byw islaw’r llinell dlodi ac nid oes ganddyn nhw fynediad at feddyginiaeth. Mae'r planhigyn yn tyfu mewn llwyni ac mae'n gymharol hawdd ei dyfu ar dir ffrwythlon - y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw hadau.

“Mae’n hanfodol bod pobl yn y gwledydd sy’n cael eu heffeithio, ac Affrica yn benodol, yn clywed bod buddion y planhigyn wedi’u profi’n wyddonol. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod hon yn driniaeth sydd â seiliau gwyddonol cadarn, nid dim ond rhai seicolegol.”

Yn ogystal â dangos y gallai dail y Christmas Bush fod yn ffordd dda o reoli’r clefyd, mae’r ymchwil yn cynnig y posibilrwydd o ddatblygu cyffuriau neu wella cryfder y driniaeth yn y dyfodol.

Cynhaliwyd ac ariannwyd y prosiect ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth, Academi Gwyddorau Meddygol Tsieineaidd Tsieina, TETFund Llywodraeth Nigeria, a Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae’n rhan o gytundeb cydweithredu ehangach rhwng Polytechnig Ffederal Nigeria Ado Ekiti a Phrifysgol Aberystwyth yn ogystal.

Dywedodd yr Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth, a arweiniodd yr ymchwil:

“Mae ein gwaith wedi sefydlu bod y cemegyn yn nail y Christmas Bush yn effeithiol er mwyn lleihau symptomau anemia’r crymangelloedd. Mae’n rhan o ymchwil ehangach sy'n profi effeithiolrwydd meddyginiaethau traddodiadol. Rydym ni yn Aberystwyth yn gweithio gyda Chanolfan Ymchwil Arteminsin yn Beijing i archwilio sut y gallai perlysiau meddyginiaethol fod yn ffynonellau newydd o gyffuriau. Mae ein prosiect gyda Pholytechnig Ffederal Ado Ekiti yn Nigeria ar y Christmas Bush wedi bod yn rhan o hyn. Mae’r bartneriaeth ryngwladol hon yn dangos sut mae cydweithio yn diwallu anghenion clinigol pwysig.”