Gwerth byd natur yn cael ei anwybyddu ar gyfer twf economaidd tymor byr

Golygfa o'r awyr o wastraff mwyngloddio copr coch (credyd: saajean)

Golygfa o'r awyr o wastraff mwyngloddio copr coch (credyd: saajean)

11 Gorffennaf 2022

Mae gwir werth byd natur yn aml yn cael ei anwybyddu o blaid elw tymor byr a thwf economaidd, yn ôl adroddiad nodedig a gyd-gadeiriwyd gan academydd o Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r Asesiad Gwerthoedd, adroddiad a gyhoeddwyd heddiw a gymerodd bedair blynedd i’w lunio ac a oedd yn cynnwys 82 o wyddonwyr ar draws 47 o wledydd, yn dadlau y dylai fod newid yn y ffordd y mae llywodraethau'n edrych ar fyd natur.

Mae gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn gymhleth a rhaid ymdrin â thensiynau sy'n cystadlu â'i gilydd. Gall prosiect datblygu greu swyddi a hybu CMC, ond gall hefyd arwain at golli rhywogaethau a dinistrio safleoedd treftadaeth.

Mae'n dweud bod llywodraethau'n blaenoriaethu agweddau ar natur sy'n seiliedig ar y farchnad yn bennaf, fel amaethyddiaeth ddwys, ond yn diystyru ei chyfraniadau i bobl, fel hinsawdd a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae angen i lunwyr polisi gydnabod a pharchu safbwyntiau byd-eang, gwerthoedd a gwybodaeth pobloedd brodorol a chymunedau lleol i sicrhau bod llywodraethu yn decach i ddinasyddion a natur, dadleuodd yr awduron.

Drwy newid y broses o wneud penderfyniadau er mwyn rhoi gwerth ar yr agweddau amrywiol ar natur, gall llywodraethau wneud y newidiadau systemig sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang.

Mae'r sefydliad y tu ôl i'r adroddiad, IPBES, yn gorff rhynglywodraethol annibynnol sy'n cynnwys 139 o lywodraethau sy'n aelodau.

Dywedodd yr Athro Mike Christie o Ysgol Fusnes Aberystwyth, a oedd yn cyd-gadeirio’r adroddiad: “Mae canlyniadau mwy cynaliadwy pan fydd penderfyniadau’n cymryd ystyriaeth o amrywiaeth lawn gwerthoedd byd natur yn hytrach na chanolbwyntio ar un agwedd arno.

“Er enghraifft, mae gan lywodraethau ledled y byd gynlluniau ailgoedwigo beiddgar ar waith fel rhan o’u cynlluniau i gyrraedd Net Zero erbyn 2050. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, sydd â chynlluniau uchelgeisiol i blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y ddegawd.

“Pe bai llywodraeth yn mabwysiadu agwedd gul at y polisi hwn, gallai arwain at blannu diwahaniaeth ac arwain at golli cynefinoedd pwysig a thir fferm cynhyrchiol.

“Fodd bynnag, trwy ddefnyddio’r dull a argymhellir gan yr Asesiad Gwerthoedd, byddai llywodraethau yn hytrach yn archwilio’r ystod lawn o fuddion sy’n gysylltiedig â gwahanol bolisïau coedwigo. Gallai hyn arwain at goedwigoedd mwy naturiol sydd nid yn unig yn dal carbon, ond sydd hefyd yn darparu cartrefi i fywyd gwyllt, yn helpu i leihau peryglon llifogydd ac yn creu cyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored. Byddai hefyd yn sicrhau bod gwerthoedd pobl a diwylliannau lleol yn cael eu parchu.”

Dywedodd Ana María Hernández Salgar, Cadeirydd IPBES: “Mae bioamrywiaeth yn cael ei golli ac mae cyfraniadau natur i bobl yn cael eu diraddio’n gyflymach nawr nag ar unrhyw adeg arall yn hanes dyn.

“Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw ein hymagwedd bresennol at benderfyniadau gwleidyddol ac economaidd yn rhoi digon o ystyriaeth i amrywiaeth gwerthoedd natur.

“Mae’r wybodaeth, y dadansoddiadau a’r offer a gynigir gan yr Asesiad Gwerthoedd yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r broses honno, at gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ac at symud pob penderfyniad tuag at well canlyniadau sy’n canolbwyntio ar werthoedd i bobl a gweddill byd natur.”