Addysgu rhagorol yn cael ei ddathlu gan Brifysgol Aberystwyth

Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor: Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, yn cyflwyno Gwobr Cwrs Nodedig 2021/22 i Dr Laura Stephenson o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor: Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, yn cyflwyno Gwobr Cwrs Nodedig 2021/22 i Dr Laura Stephenson o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

15 Gorffennaf 2022

Cyflwynwyd Gwobrau Cwrs Nodedig i academyddion o’r adrannau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth am arloesedd yn eu gwaith addysgu.

Cyflwynwyd y gwobrau yng Nghinio'r Cymrodyr eleni, a gynhaliwyd yn ystod Wythnos y Graddio. Yn ogystal â chyflwyno gwobrau 2021/22, dyfarnwyd gwobrau o 2019/20 a 2020/21 oherwydd iddynt gael eu gohirio yn ystod pandemig COVID-19.

Enillodd Dr Laura Stephenson o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wobr 2021/22 am ei modiwl 'Gender and Media Production'.

Cafodd Dr Andrew Filmer a Dr Maire Gorman o'r Adran Ffiseg ac Ysgol y Graddedigion, a Claire Ward o'r Adran Dysgu Gydol Oes ganmoliaeth uchel am eu modiwlau.

Am y flwyddyn academaidd 2020/21, enillodd Dr Hanna Binks o'r Adran Seicoleg y wobr gyffredinol am ei modiwl 'Introduction to Research Methods in Psychology'.

Cafodd Prysor Mason Davies (Yr Ysgol Addysg), Dr Martine Garland (Ysgol Fusnes Aberystwyth), Mary Jacob (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu) a Dr Rhianedd Jewell (Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) i gyd ganmoliaeth uchel am eu modiwlau.

Dr Lara Kipp (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu) a gipiodd wobr 2019/20 am ei modiwl 'Principles of Scenography'. Cafodd Dr Rhianedd Jewell (Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) ganmoliaeth uchel am ei gwaith yn ystod y flwyddyn honno.

Asesir y gwobrau ar sail pedwar maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i’r dysgwyr. Mae’r rhai sy’n ymgeisio am y wobr yn disgrifio tri gweithgaredd eithriadol ac arloesol yn eu modiwlau.

Dros y ddwy flynedd a hanner a aeth heibio, mae holl academyddion y Brifysgol wedi cyflwyno dulliau addysgu arloesol, megis byrddau trafod, blogiau, cyfnodolion, wikis a phrofion, er mwyn darparu profiadau addysgol o'r ansawdd gorau.

Caiff y gwobrau eu beirniadu gan banel arbenigol sy’n cynnwys cyn-enillwyr.

Meddai'r Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr): "Mae cryfder y gystadleuaeth i ennill y gwobrau Cwrs Nodedig hyn yn dangos bod natur ein haddysgu ar draws y Brifysgol gyfan o'r radd flaenaf.

"Hoffwn longyfarch yr enillwyr yn ogystal â’r corff addysgu ehangach am safon uchel iawn y ceisiadau. Mae'r cyrsiau sydd wedi derbyn gwobrau yn adlewyrchu’r rhagoriaeth, yr arloesedd, y creadigrwydd a’r uchelgais sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r academyddion yn arbenigwyr ym meysydd y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau, gan ddangos ehangder ein harbenigedd - llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd."

Dywedodd Dr James Woolley, cydlynydd y gwobrau: "Mae ehangder y gweithgareddau yn y modiwlau hyn yn dyst i'r arferion dysgu ac addysgu arloesol sy'n digwydd ar draws y brifysgol. Mae'r enillwyr yn gosod meincnod o arfer rhagorol y gellir ei rannu â chydweithwyr a dangos yr hyn sy'n bosibl yn ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir."

Meddai ⁠Kate Wright, sy'n rheoli'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu: "Da iawn i'r holl staff sy'n cael eu cydnabod trwy'r gwobrau hyn. Mae eu creadigrwydd, eu gwaith caled, a'u hymrwymiad i brofiad o ansawdd uchel i'w myfyrwyr yn amlwg yn eu modiwlau."