Gwahoddiad agored i ymweld â Phantycelyn

Neuadd Pantycelyn

Neuadd Pantycelyn

28 Gorffennaf 2022

Bydd neuadd breswyl Gymraeg enwocaf Cymru yn agor ei drysau i’r cyhoedd ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Sefydlwyd Pantycelyn fel neuadd breswyl Gymraeg yn 1974, ac ym mis Medi 2020 croesawodd genhedlaeth newydd o fyfyrwyr wedi buddsoddiad o £16.5m.

Bydd y neuadd ar agor i’r cyhoedd rhwng 2 a 4 o’r gloch brynhawn Sul 31 Gorffennaf a bydd cyfle i ymweld â rhai o ystafelloedd eiconig yr adeilad hanesyddol, megis y Lolfa Fach, y Lolfa Fawr a’r Ffreutur, lle bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Bydd cyfle hefyd i weld yr adnoddau astudio a’r ystafelloedd en-suite newydd, ac i fwynhau arddangosfa o bosteri a phlacardiau sy’n adlewyrchu bywyd cymdeithasol y Neuadd ar hyd y degawdau, a chyfraniad Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth - UMCA.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol y Brifysgol: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu pobl yn ôl i Bantycelyn, yn gyn breswylwyr, yn aelodau staff, darpar-fyfyrwyr a’r cyhoedd. Mae’r adeilad yn gyfoeth o atgofion i lawer ac yn galon i gymuned fyrlymus myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, lle mae modd i bawb fyw eu bywydau mewn awyrgylch naturiol Gymraeg.”

Ers ei hadnewyddu, mae Neuadd Pantycelyn yn cynnig llety o’r radd flaenaf i hyd at 200 o fyfyrwyr, gyda phob un o’r ystafelloedd gwely wedi ei hadeiladu o’r newydd.

Yn ogystal, mae yna swyddfa newydd sbon i UMCA lle mae’r undeb yn darparu cyngor a chymorth i fyfyrwyr ac yn cydlynu rhaglen lawn o weithgareddau.

Agorwyd Pantycelyn ar ei newydd gan y Gweinidog Addysg ym mis Medi 2020. Ynghyd â buddsoddiad sylweddol gan y Brifysgol, derbyniodd y prosiect £5m o raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Rhodri Morgan: “Oherwydd cyfyngiadau COVID, dyma’r cyfle cyntaf i ni agor drysau’r neuadd er mwyn i bawb gael gweld yr adnoddau gwych sydd yma, a’r trawsnewidiadau rhyfeddol yn sgil y gwaith adeiladu. Er bod yr adeilad yn edrych fwy neu lai’r un fath o’r tu allan, mae’r rhan fwyaf o’r hyn sydd tu fewn yn hollol newydd ac yn adlewyrchu gofynion myfyrwyr yn yr 21ain ganrif, ac eto’n cynnal y gorau o’r gymuned glos a fu’n nodwedd mor bwysig i genedlaethau o fyfyrwyr a fu’n byw yno.”

Eisoes cafwyd ymateb gwych gan gyn-fyfyrwyr sydd yn dymuno ymweld â Phantycelyn ddydd Sul, ac mae croeso mawr i unrhyw un sy’n dymuno nodi eu bwriad i fynychu’r digwyddiad, neu aduniad blynyddol y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod, ar-lein yma.

Mae prynhawn agored Pantycelyn yn rhan o raglen lawn o weithgareddau sydd wedi ei threfnu at gyfer wythnos yr Eisteddfod, sydd hefyd yn nodi dechrau dathliadau 150 mlwyddiant y Brifysgol.