Digwyddiadau

 

Gweler digwyddiadau'r dathlu 150 isod

Dathliad Cymrodyr a Ffrindiau 19 Gorffennaf 2023

Daeth dathliadau pen-blwydd y 150 i fwcl yn ystod wythnos graddio gyda chyfle i ddathlu yng nghwmni Cymrodyr a Ffrindiau.

Lluniau Dathliad Cymrodyr a Ffrindiau

Penwythnos Aduniad Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr 23-25 Mehefin 2023

Penwythnos i ddathlu 130 mlwyddiant Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr ynghyd â 150 mlwyddiant y Brifysgol. Roedd yn gyfle gwych i ailgysylltu a hel atgofion gyda hen ffrindiau ac aelodau o staff, cwrdd â chyfoedion, a gweld y dref a'r Brifysgol fel maen nhw heddiw, yn agored i holl raddedigion a chyn aelodau staff Aber a’u teuluoedd.

Lluniau a fideo i weld yma.

Côr Gospel Prifysgol Alabama yn Birmingham 4 Mehefin 2023

Perfformiodd myfyrwyr o Brifysgol Alabama yn Birmingham (UAB) cyngerdd yn Bandstand Aberystwyth ddydd Sul 4 Mehefin fel gwesteion Prifysgol Aberystwyth.

Roedd y gyngerdd yn y bandstand am ddim ac yn agored i bawb, ac yn cynnwys casgliad tuag at Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2022/23, sef Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Codwyd dros £280.

Lluniau o'r cyngerdd

Swper Elusennol y Scarlets a Phrifysgol Aberystwyth - 27 Ebrill 2023

Cynhaliwyd noson elusennol arbennig ar nos Iau, 27ain Ebrill, i ddathlu penblwydd y Brifysgol a'r Scarlets yn 150 oed.

Codwyd dros saith mil o bunnau gyda'r holl elw wedi cael ei rannu rhwng Sefydliad Phil Bennett ac elusen y flwyddyn Prifysgol Aberystwyth sef Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais.

Lluniau o Swper Elusennol y Scarlets a Phrifysgol Aberystwyth

Dathlu yn Washington DC / Efrog Newydd 29-30 Mawrth 2023

Cynhaliwyd digwyddiadau arbennig ym Mhreswylfa Llysgennad Prydain, Washington a'r Culture Centre yn Efrog Newydd.

Roedd yn gyfle i ddathlu’r bartneriaeth hir rhwng Aberystwyth a’r Unol Daleithiau o’n myfyriwr rhyngwladol cyntaf un, yn ôl yn 1875, i daith y Prifathro cyntaf, Thomas Charles Edwards i Ogledd America yn 1890 i godi arian i adnewyddu’r Hen Goleg yn dilyn tân dinistriol.

Roedd cyn-fyfyrwyr, ffrindiau a chefnogwyr yr Unol Daleithiau yn hollbwysig i oroesiad y Brifysgol yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny ac mae’r cynhesrwydd a ddangoswyd tuag at Aber yn ystod yr ymweliad yn adlewyrchu bod hynny mor gryf heddiw ag erioed.

Lluniau o ddigwyddiad Washington DC

Lluniau o ddigwyddiad Efrog Newydd

Derbyniad dathlu 150 yn Nhŷ’r Arglwyddi 22 Mawrth 2023

Daeth 200 o gyn-fyfyrwyr a gwesteion ynghyd i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon yn ein hanes yng nghwmni’r Canghellor, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd. Y siaradwr gwadd oedd y gyn-fyfyrwraig a chymrawd, y Farwnes Kay Andrews OBE a sgwrsiodd yn hoffus am ei chyfnod yn Aberystwyth.

Cafodd pawb noson wrth eu bodd yn dathlu a hel atgofion o fewn muriau godidog Tŷ’r Arglwyddi.

Lluniau derbyniad dathlu 150 yn Nhŷ’r Arglwyddi 

Gweminar : Ceiniogau'r Werin / Pennies of the People 6 Rhagfyr 2022

I nodi a dathlu ein pen-blwydd yn 150, cynhaliwyd weminar arbennig i bori drwy rhai o'r straeon y tu ôl i'n cyhoeddiad diweddar Ceiniogau'r Werin / Pennies of the People.

Cyfle i ganfod mwy am hanes y Brifysgol a chlywed ystod o straeon rhyfeddol o’n gorffennol a’n presennol yng nghwmni’r Athro Anwen Jones, Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol; Yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf, a’n archifydd Julie Archer.

Gŵyl Ymchwil 21 Tachwedd-3 Rhagfyr 2022

'Y Bydoedd a Garem'

Roedd yr ŵyl flynyddol yn tynnu sylw at yr ymchwil o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi ei chynnal fel rhan o’i dathliadau 150 mlwyddiant.

Rhaglen llawn a manylion pellach i weld yma

Ymweliad De-ddwyrain Asia 11-18 Tachwedd 2022

Braf oedd gallu dychwelyd i Dde-ddwyrain Asia i ddathlu ein pen-blwydd yn 150 gyda digwyddiadau ym Malaysia, Singapore a Gwlad Thai yng nghwmni’r Canghellor, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, ynghyd â’r Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure.

Daeth dros 180 o gyn-fyfyrwyr a chymrodyr ynghyd i ddathlu ac i wybod mwy am ddatblygiadau ‘r Brifysgol gyda derbyniadau yn Bangkok, Singapore a Kuala Lumpur. Cynhaliwyd cinio arbennig i Gymrodyr a ffrindiau ym Malaysia yng nghwmni gwestai anrhydeddus Ei Uchelder Brenhinol Tuanku Muhriz.

Lluniau derbyniad cyn-fyfyrwyr Malaysia

Lluniau cinio Cymrodorion Er Anrhydedd a Chyfeillion

Michael Jonas/Mis Hanes Pobl Dduon 28 Hydref 2022

Yn rhan o'n dathliadau Mis Hanes Pobl Dduon, cawsom gyflwyniad gan y siaradwr gwadd Michael Jonas o Represent Us Rural, ac fe wnaeth y cyflwyniad hwnnw yn sicr ein hysgogi i feddwl. Roedd y cyflwyniad yn archwilio 'Natur Anwyddonol ffyrdd o feddwl ar sail hil’, a sbardunodd hynny lawer o drafodaethau ymhlith ein myfyrwyr uwchraddedig ac aelodau o staff.  Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych a oedd yn gyfle i rannu gwybodaeth, profiad, a dysg.

Dathliad y Sylfaenwyr Caerdydd 19 Hydref 2022

Ar ddydd Mercher 19 Hydref daeth cyn-fyfyrwyr, ffrindiau, cefnogwyr, staff a myfyrwyr ynghyd yn Y Senedd, Bae Caerdydd i ddathlu yng nghwmni gwesteion anrhydeddus Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS a’r Llywydd, y Gwir Anrh Elin Jones MS.

Roedd yn gyfle nid yn unig i edrych yn ôl ar ein hanes, ond i edrych ymlaen at y dyfodol, wrth inni greu rhaglenni sy’n addas ar gyfer bywydau pobl Cymru a thu hwnt gan barhau i fynd i’r afael â rhai o’r materion mawr sy’n wynebu ein cymdeithas gan weithio mewn partneriaeth er budd ein cymunedau.

Lluniau dathlu'r Sylfaenwyr Caerdydd

Dathliad y Sylfaenwyr Llundain 18 Hydref 2022

Ar ddydd Mawrth y 18fed o Hydref cynhaliwyd digwyddiad arbennig i ddathlu ein Sylfaenwyr yng Nghanolfan Cymry Llundain, Ffordd Gray’s Inn.  Bu’n lleoliad priodol iawn i nodi’r achlysur a’n pen-blwydd yn 150 gan mai yma, yng nghalon y ddinas, y rhoddwyd cyfeiriad pendant i’r freuddwyd i sefydlu Prifysgol i Gymru.

Roedd yn anrhydedd i groesawu’r siaradwr gwadd, Huw Edwards, y newyddiadurwr a’r darlledwr uchel ei barch gyda’r BBC, a siaradodd am y cysylltiadau dwfn rhwng Llundain a Chymru a dylanwad y Cymry yn Llundain ar Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt.

Lluniau dathlu'r Sylfaenwyr Llundain

Dathliad y Sylfaenwyr Aberystwyth 14 Hydref 2022

Ar ddydd Gwener 14 Hydref, nododd Prifysgol Aberystwyth 150 mlynedd ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf, gyda gorymdaith Diwrnod y Sylfaenwyr i gicio’r bar ar y Promenâd ac a ddilynwyd gan frecwast mawreddog yn Y Neuadd Fawr.

Mae'r digwyddiad blynyddol yn cofio’r diwrnod pan groesawyd 25 o fyfyrwyr i'r Coleg Prifysgol newydd gan y Prifathro Thomas Charles Edwards ym mis Hydref 1872.

Yn unol â'r traddodiad, arweiniwyd yr orymdaith gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith aelodau staff, myfyrwyr, cefnogwyr a chynrychiolwyr o'r gymuned leol. Roedd sawl aelod o Gymdeithas y Cyn Fyfyrwyr yno hefyd i ddathlu 130 mlwyddiant y Gymdeithas ynghyd â 150 mlwyddiant y Brifysgol.

Fel rhan o’r dathliadau 150 mae cyfrol ddathlu arbennig wedi ei chyhoeddi sydd yn dwyn y teitl Ceiniogau'r Werin | The Pennies of the People.  Mae’n cynnwys cyfoeth o straeon a chymeriadau yn seiliedig ar 150 gwrthrych o’n gorffennol hyd at y presennol.

Lluniau dathlu'r Sylfaenwyr Aberystwyth  

‘Gig Mawr 150’ 15 Hydref 2022

Cynhaliwyd gig mawreddog yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Hydref i ddathlu treftadaeth gerddorol y Brifysgol dros y blynyddoedd, gyda’r lein-yp yn cynnwys llu o’r artistiaid a bandiau sydd wedi bod yn fyfyrwyr yn y Brifysgol.

Roedd y perfformwyr yn cynnwys Mynediad am Ddim, Geraint Løvgreen a’r Enw Da, Linda Griffiths, Pwdin Reis, Los Blancos, Catrin Herbert, Mei Emrys a Bwca.

I gyd-fynd â’r Gig Mawr, roedd hefyd arddangosfa arbennig i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau yn dathlu’r cysylltiad rhwng Aber a’r sin gerddoriaeth.

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 30 Gorffennaf-6 Awst 2022

Gyda’r Eisteddfod yn lleol yn Nhregaron eleni roedd yn cynnig man cychwyn cofiadwy i’r flwyddyn ddathlu 150. 

Fel arfer roedd gan Prifysgol Aberystwyth bresenoldeb amlwg ar y Maes a dathliadau y 150 yn ganolbwynt ar y stondin eleni gyda sawl cyfle ar hyd yr wythnos i fwynhau cyflwyniadau yn seiliedig ar straeon cyfoethog o’r Gyfrol Ddathlu 150. 

Bu’r Aduniad Blynyddol i gyn-fyfyrwyr ar brynhawn dydd Mercher yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben. Cynhaliwyd Aduniad Haf UMCA ar y stondin ar brynhawn dydd Gwener i groesawu myfyrwyr presennol a diweddar. Roedd y Brifysgol yn amlwg yn y Pentref Gwyddoniaeth a oedd yn llwyfannu rhaglen brysur o weithgareddau difyr wedi’i seilio ar yr ymchwil ddiweddaraf ym myd y Gwyddorau ac roedd tîm Dysgu Cymraeg y Brifysgol wrth galon prysurdeb y Pentref Dysgu’r Gymraeg fel y prif ddarparwr lleol. Roedd academyddion blaenllaw yn darlithio ac yn trin a thrafod materion cyfoes fel rhan o raglen Pabell y Cymdeithasau a'r Babell Lên.

Zumbathon 26 Mehefin 2022

Ymunodd dros 70 o bobl â thîm Zumba Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth i nodi ein pen-blwydd yn 150 drwy gymryd rhan mewn 150 munud o Zumba. Codwyd cyfanswm o dros £1,000 gyda’r arian yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru (Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth a bleidleisiwyd gan staff a myfyrwyr ar gyfer 2021-22) ac Apêl Wcráin.

Fel rhan o Ddathliad Diwrnod y Sylfaenwyr yn Aberystwyth cyflwynodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, siec o £5,200.37, sef y cyfanswm a godwyd gan staff a myfyrwyr y brifysgol, i Dougie Bancroft, swyddog codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru.

Pleidleisiodd myfyrwyr a staff i gefnogi’r uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais trwy ei gwneud yn Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth am 2022-23.

Lluniau o'r Zumbathon