Profi ffyrdd newydd o olrhain dietau pobl er lles iechyd y cyhoedd

01 Medi 2022

Bydd ymchwilwyr yn dechrau profi technegau, gan gynnwys camerâu gwisgadwy a phrofion wrin a gwaed, mewn ymdrech i fesur arferion bwyta’r Deyrnas Gyfunol yn fwy cywir a gwella iechyd y cyhoedd.

Mae goblygiadau mawr i’r prosiect - a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth ar y cyd â phrifysgol Reading, Uned Epidemioleg y Cyngor Ymchwil Meddygol ym Mhrifysgol Caergrawnt a Choleg Imperial, Llundain - o ran sut mae llywodraethau a llunwyr polisi yn asesu llwyddiant ymdrechion i wella iechyd pobl a rhoi gwell cyngor dietegol.

Gallai hefyd helpu gyda'r monitro sydd ei angen i brofi triniaethau newydd ar gyfer clefydau, megis y cysylltiad rhwng patrymau bwyta a chanser.

Ar hyn o bryd mae dietau’n cael eu mesur wrth i bobl gwblhau arolygon maeth cymhleth a llafurus a cheisio cofio beth maen nhw wedi'i fwyta, ond gall hyn arwain at ganlyniadau annibynadwy.

Nod y prosiect pum mlynedd newydd hwn yw defnyddio technegau modern i ddatblygu ffordd newydd o fesur yn gywir yr hyn y mae pobl yn ei fwyta.

Yng ngham cyntaf y prosiect, a fydd yn cynorthwyo gwyddonwyr i ddatblygu protocolau newydd, bydd gwirfoddolwyr yn dilyn cynlluniau prydau gosodedig sy'n gynrychioliadol o ddiet y DG. O dan oruchwyliaeth, bydd gwirfoddolwyr yn gwisgo camerâu bach i ffilmio'r hyn y maent yn ei fwyta yn ogystal â samplu eu gwaed a'u wrin.

Defnyddir dysgu peirianyddol i ddadansoddi’r delweddau ac i fesur pa mor gywir y gallai’r system adnabod bwyd sy’n cael eu bwyta gan y gwisgwr, o’i gymharu â'r dadansoddiad cemegol o fwyd yn y samplau wrin a gwaed.

Yna bydd data o bob dull yn cael ei fodelu i asesu'r cyfuniad gorau o dechnegau i fonitro diet yn gywir ac yn y ffordd sy’n amharu leiaf.

Ar ôl yr astudiaeth beilot, bydd treial mwy, o bell, i brofi effeithiolrwydd y dechneg pan fydd gwirfoddolwyr yn byw yn eu cartrefi eu hunain ac yn dewis eu diet dros gyfnod o sawl wythnos.

Dywedodd yr Athro John Draper o Brifysgol Aberystwyth:

“Rydym yn falch iawn o fod yn arwain y gwaith hwn i ddatblygu methodoleg newydd i gofnodi arferion bwyta yn gywir. O ymdrechion i leihau faint o halen y mae pobl yn ei fwyta i gynyddu nifer y llysiau rydyn ni'n eu bwyta, mae cael darlun mwy cywir o’r hyn sy’n cael ei fwyta yn hanfodol ar gyfer gwella iechyd pobl a chysylltu â chanlyniadau iechyd. Mae yna broblemau cynhenid ​​gydag arolygon bwyta. Ar hyn o bryd, nid ydym yn deall mewn gwirionedd yr hyn y mae pobl yn ei fwyta a dy nhw ddim ychwaith, yn enwedig mewn prydau cymhleth. Dyna sut y gall y technegau newydd hyn fod o gymorth mawr.

“Bydd ein gwaith yn edrych ar y technegau y gellir eu cyfuno i gynhyrchu’r broses fwyaf cywir ac effeithlon, gan gynnwys edrych ar gost a rhwyddineb. Bydd hynny’n galluogi llywodraethau ledled y byd i benderfynu sut maen nhw am symud ymlaen, wrth asesu sut maen nhw am fesur effeithiolrwydd eu polisïau.”

Ariennir y prosiect gan grant £3 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Meddygol a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol ac mae'n cynnwys pedwar tîm arbenigol sy'n darparu sgiliau mewn astudiaethau maeth, bio-samplu, dadansoddi cemegol, technoleg camera gwisgadwy ac asesu diet ar y we.

Mae’r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth eisoes wedi arloesi gyda thechneg newydd i brofi beth sy’n cael ei fwyta drwy ddefnyddio samplau wrin sy’n cael eu dychwelyd drwy’r post.

Dangosodd yr ymchwil diweddar hwn y gellir dadansoddi samplau wrin a gwaed wedi’u postio i ganfod ‘biomarcwyr’ cemegol sy’n tarddu o ystod eang o fwydydd a fwyteir fel arfer yn y DU, ond nid oes modd monitro llawer o grwpiau bwyd pwysig yn y modd hwn o hyd.

Ychwanegodd Dr Amanda Lloyd o Brifysgol Aberystwyth:

“Nod arolygon maeth yw deall sut mae diet yn effeithio ar iechyd, ond yr her yw nad oes gennym y teclyn cywir i asesu diet. Rydyn ni’n dibynnu ar beth mae pobl yn dweud wrthym am yr hyn y maent wedi'u fwyta yn ystod y diwrnod neu'r mis diwethaf. Fodd bynnag, mae'n anodd cofio beth a barnu faint rydym wedi'i fwyta. Mae'r arolygon a ddefnyddiwyd hefyd yn ei chael hi'n anodd nodi'r ystod o ddietau yn y DG oherwydd diffyg cwestiynau priodol.

“Does dim un teclyn penodol sy’n medru mesur pob agwedd o ddiet rhywun yn gywir, ond mae llawer o ffyrdd y gallwn asesu diet yn dod i'r amlwg. Mantais defnyddio samplau wrin a gwaed pric bys i brofi am 'farcwyr' bwyd a diod yw eu bod yn rhoi data gwrthrychol i ni. Mae camerâu gwisgadwy ynghyd â meddalwedd deallusrwydd artiffisial, ac offer ar-lein newydd symlach ar gyfer hunan-adrodd hefyd yn cynnig potensial gwych i gofnodi arferion bwyta. Ein nod yw datblygu proses newydd, gan dynnu ar y gorau o’r technegau a’r technolegau newydd hyn a’u cyfuno.”

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys cynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned ymchwil maeth ac adrannau’r llywodraeth.