Myfyrwraig Ysgrifennu Creadigol o’r adran Dysgu Gydol Oes yn cyhoeddi ei nofel gyntaf

Kathy Biggs

Kathy Biggs

19 Hydref 2022

Mae awdures a gafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu ar ôl dilyn cyrsiau Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf.

Darganfu Kathy Biggs ei dawn lenyddol pan gofrestrodd ar fodiwlau Ysgrifennu Creadigol yng nghanolfan Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt ar ôl colli ei swydd.

Mae ei nofel 'The Luck' yn saga epig am aml-genedlaethau wedi'i gosod yng Ngorllewin Canol America. Gan ddechrau ym 1930 pan mae pâr yn rhoi popeth sydd ganddynt i wneud bywoliaeth o'u fferm, 'The Luck', mae'r stori'n dilyn hynt a helynt, tor calon a llawenydd y teulu dros dair cenhedlaeth. Gan ymdrin â themâu cariad, colled a thwyll, a hyd yn oed llofruddiaeth, mae'r stori’n ddirgelwch gafaelgar sy'n datblygu dros ddegawdau.

Meddai Biggs: "Dechreuais ysgrifennu tua dechrau 2017 ar ôl colli fy swydd. Er fy mod i wrth fy modd â’r swydd honno (eiriolaeth dros bobl hŷn), roedd yn gofyn am ddelio â llawer o wybodaeth - adroddiadau, ffurflenni, dogfennau cyfreithiol. Beth bynnag y byddwn yn ei wneud nesaf, roeddwn yn gwybod fy mod am iddo fod yn rhywbeth a fyddai’n caniatáu i mi gael pethau allan o ‘mhen yn hytrach na rhoi rhagor i mewn. 

"Trwy ymuno â chymuned o ysgrifenwyr cefais yr hyder a’r ymroddiad i gyhoeddi fy ngwaith. Yr hyn yr oeddwn wir yn ei werthfawrogi am ddosbarthiadau Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth oedd dirnadaeth y tiwtoriaid a'r heriau amrywiol y byddai’r gwaith yn eu cynnig. Drwy'r modiwlau a gymerais, dysgais am ysgrifennu nofelau, straeon byrion, barddoniaeth, erthyglau nodwedd a sgriptio, ac fe’m sbardunwyd i wella fy ngalluoedd fy hun."

"Roedd dod yn awdur yn teimlo mwy fel proses yn hytrach na phenderfyniad, ond mae un peth yn sicr – bu’r dosbarthiadau Dysgu Gydol Oes yn greiddiol i'r broses honno. Fe wnaethant ddatgloi rhywbeth ynof fi nad oeddwn i'n gwybod oedd yno, ac rwy'n hynod ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth a phawb sy'n ymwneud â’r cyrsiau hyn am fy rhoi ar lwybr gyrfa hollol newydd."

Dywedodd Lara Clough, tiwtor ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fu’n diwtor ar Kathy: "Rwy'n falch iawn o glywed bod Kathy yn cyhoeddi ei nofel gyda gwasg Honno. Fel un o’m myfyrwyr, roedd yn amlwg iawn o'r cychwyn ei bod yn awdur medrus, dawnus ac uchelgeisiol. Yma, mae hi'n eich tynnu'n ddeheuig i fywydau a chyfyng-gyngor ei chymeriadau, mewn saga deuluol gyffrous wedi'i gosod ar draws y cenedlaethau yng nghefn gwlad Gorllewin Canol America."

Wrth sôn am ‘The Luck’ dywedodd Chris Kinsey, un o gyn-diwtoriaid eraill Kathy:  "Taniwyd fy nychymyg gan y cymeriadau o'r cychwyn cyntaf a chefais flas mawr ar ddarllen am eu llwyddiannau a'u gofidiau. Cefais fy sgubo gan y naratif cyflym a chywrain – mae'r dirgelwch a'r diddordeb yn cael eu cynnal tan y diwedd un."

Cyhoeddwyd 'The Luck' gan Wasg Honno ar 6 Hydref 2022. Cynhelir lansiad swyddogol y llyfr am 7yp ddydd Gwener 21 Hydref 2022 yn Neuadd Victoria, Llanwrtyd.

Mae'r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Ysgrifennu Creadigol. O gyrsiau i ddechreuwyr ar dechnegau, sgiliau a chrefft ysgrifennu, i fodiwlau ar ysgrifennu nofel, ffantasi a ffuglen wyddonol a sut i gyhoeddi eich gwaith. 

Does dim angen unrhyw gymwysterau na phrofiad blaenorol i wneud y cyrsiau, ac maent ar gael trwy amryw ffurfiau - dysgu wyneb yn wyneb, dysgu o bell, neu ddull dysgu cymysg. Gall myfyrwyr astudio modiwlau unigol, neu weithio tuag at Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol.  Mae pob modiwl wedi'i achredu gan y brifysgol ac mae gan y tiwtoriaid brofiad helaeth o ddarparu addysg i oedolion.