Mererid Hopwood yn ymuno â Phrif Weinidog Cymru am drafodaeth banel yng ngŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi

Yr Athro Mererid Hopwood

Yr Athro Mererid Hopwood

27 Hydref 2022

Bydd yr Athro Mererid Hopwood, sydd â Chadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cymryd rhan mewn digwyddiad tridiau o sgyrsiau a pherfformiadau yn dathlu'r cysylltiadau diwylliannol a cherddorol parhaus rhwng Iwerddon a Chymru.

Mae sesiynau Clebran, sydd eleni’n dwyn y teitl 'Dychymyg Cysylltiedig', yn rhan o’r ŵyl Lleisiau Eraill a gynhelir yn Aberteifi (3-5 Tachwedd 2022).  Maent yn gyfres wedi'i churadu o sgyrsiau gydag artistiaid, newyddiadurwyr, pobl greadigol a gwleidyddion, a fydd yn sbarduno trafodaethau ynghylch sut rydym yn gweld ein byd, ein hiaith a’n diwylliant.

Mewn trafodaeth banel a lywyddir gan y darlledwr teledu a radio Huw Stephens, bydd yr Athro Hopwood yn ymuno â'i chyd-banelwyr Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS a'r cerddor Gwyddelig, Aoife Ní Bhriain am drafodaeth ar y thema 'Pwy ydym ni: Diwylliant, Hunaniaeth a’r Cymry a’r Gwyddelod ar Wasgar’

Cynhelir y digwyddiad am 3.15yp ddydd Gwener 4 Tachwedd 2022 ym Mwldan yn Aberteifi, a bydd y panel yn trafod sut mae tirweddau diwylliannol Cymru ac Iwerddon yn ganolog i'n hunaniaethau, i'r rhai sy'n byw gartref neu dramor, a beth y gallai'r cysylltiad hwn ei olygu i'r dyfodol a rannwn. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad gan Aoife Ní Bhriain.

Meddai’r Athro Mererid Hopwood: "Mae’r perfformiadau sy'n rhan o gyfres Clebran eleni yn cynnwys artistiaid arbennig sy'n hyrwyddo ieithoedd Celtaidd trwy eu caneuon, ac sy'n dychmygu'r dyfodol trwy eu gwaith.

"Fel rhan o raglen 'Gwrando' Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, rhaglen sy'n ymateb yn rhannol i raglen Degawd Ieithoedd Brodorol UNESCO, bûm yn ffodus i ymweld â Dulyn yn gynharach eleni a chyfarfod â sylfaenydd Lleisiau Eraill, Philip King. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr felly at barhau ac ehangu sgwrs yr ochr hon i Fôr Iwerddon."

Cynhelir sesiynau Clebran ym Mwldan yn Aberteifi rhwng 3-5 Tachwedd 2022, ac maent yn rhan o ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi a gynhelir mewn partneriaeth ag Ireland's Edge.  I archebu tocynnau neu i gael rhagor o wybodaeth am Clebran a'r gerddoriaeth yn yr ŵyl ehangach ewch i https://bit.ly/3T2cRRq

Yr Athro Mererid Hopwood

Mae Mererid Hopwood yn Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth a hi yw ysgrifennydd yr Academi Heddwch. Ymhlith y gwobrau y mae wedi ennill am ei barddoniaeth a’i rhyddiaith y mae Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr barddoniaeth Llyfr Cymraeg y Flwyddyn a gwobr Tir na n'Og am ysgrifennu i blant. Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac mae ei chyfieithiadau'n cynnwys gweithiau ar gyfer y llwyfan o'r Sbaeneg a’r Almaeneg.