Academyddion o Aberystwyth yn mapio cwymp ‘cyflym’ llen iâ enfawr

Gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn casglu data fel rhan o brosiect BRITICE-CHRONO

Gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn casglu data fel rhan o brosiect BRITICE-CHRONO

07 Tachwedd 2022

Diflannodd llen iâ a fu ar un adeg yn gorchuddio Prydain ac Iwerddon gyfan yn gyflymach nag a dybiwyd o’r blaen, yn ôl ymchwil Prifysgol Aberystwyth. 

Mae’r astudiaeth o len iâ olaf Prydain-Iwerddon, a oedd yn ddigon mawr i achosi i lefel y môr godi hyd at ddwy fetr ar ôl dadlaith, wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Boreas’. Roedd yr ymchwilwyr am wybod pa mor hir y mae’n cymryd i lenni iâ mor fawr ddiflannu.

Fel rhan o brosiect £3.7 miliwn BRITICE-CHRONO, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, defnyddiodd yr arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth eu technegau dyddio ymoleuedd i olrhain cynnydd a chrebachiad y llen iâ rhwng 31,000 a 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r data’n datgelu bod y nant iâ a oedd yn llifo drwy Fôr Iwerddon yn cyrraedd mor bell i’r de ag Ynysoedd Scilly tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl, ond wedi crebachu’n gyflym mewn ardaloedd morol, megis oddi ar arfordir Cymru ac Iwerddon.

Mae’n bosibl bod golygiadau mawr i’r crebachu cyflym hwn o ran sut yr ydym yn ystyried risgiau cyfredol newid hinsawdd a’r modd y mae llenni iâ a rhewlifoedd sydd ar ôl yn y byd yn crebachu. 

Cynhaliodd tîm o ymchwilwyr o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth, 1,500 o ddyddiau ymchwil maes ar y tir a’r môr, gan gasglu llawer iawn o ddata, gan gynnwys 377 o greiddiau o waddodion o wely’r môr a 690 darn o ddata newydd sy’n datgelu oedran y llen iâ.

Mae’r wybodaeth newydd hon yn golygu ein bod yn gwybod mwy am y llen iâ eang hon nag unrhyw un arall yn y byd.

Dywedodd yr Athro Geoff Duller o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r ymchwil hwn yn torri tir newydd mewn sawl ffordd, ac mae dulliau dyddio Prifysgol Aberystwyth yn ganolog i’r canfyddiadau hyn. Drwy ddefnyddio ein dulliau dyddio ymoleuedd, gallwn ni bellach fesur yn llawer mwy cywir oedran y rhewlifoedd hyn a phryd gwnaethan nhwt dyfu a dadfeilio. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu, mewn termau daearegol, bod y llen iâ wedi crebachu’n gyflym oddi ar arfordiroedd Cymru ac Iwerddon - mater o fil o flynyddoedd - sy’n gyflymach nag a dybiwyd o’r blaen.”

“Bydd y canfyddiadau hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd gyda'r argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gwybod nawr fod y llenni iâ hynafol hyn wedi diflannu’n gyflym mewn ardaloedd morol; mae angen inni ystyried beth mae hynny’n ei olygu i’n planed ni heddiw.”