Academydd o Aberystwyth yn helpu i wella reslo ym Mhrydain

Dr Thomas Alcott, Darlithydd Theori ac Ymarfer Ffilm, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Dr Thomas Alcott, Darlithydd Theori ac Ymarfer Ffilm, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

11 Tachwedd 2022

Mae darlithydd Theori ac Ymarfer Ffilm o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu tuag at 'god ymarfer gwell' ar gyfer reslo ym Mhrydain.

Mae Dr Thomas Alcott o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi derbyn gwahoddiad gan Grŵp Seneddol Hollbleidiol San Steffan ar Reslo i gymryd rhan mewn cynhadledd ar y pwnc yn ddiweddarach y mis hwn.

Yn ddiweddar, arweiniodd y grŵp - sy’n cynnwys Aelodau Seneddol o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol – ymchwiliad, ac fe gyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Ebrill y llynedd.  

Adolygodd y grŵp hollbleidiol y rheoliadau, a’r trefniadau cyllido, diogelu a lles ym maes reslo, a cheisiwyd dod o hyd i ffyrdd o gynnal a rheoleiddio'r diwydiant yn well. 

Roedd ymchwil doethurol Dr Alcott, a edrychodd ar y berthynas rhwng cynulleidfaoedd, sêr, a diwydiant yn y byd Reslo Proffesiynol, yn un o'r adnoddau a ddefnyddiwyd ac a ddyfynnwyd yn yr adroddiad.

Trefnir y gynhadledd gan y grwpiau o Aelodau Seneddol, Prifysgol Loughborough ac ysgol hyfforddi reslo Playfight, a bydd academyddion, reslwyr, hyrwyddwyr a hyfforddwyr yn cymryd rhan. 

Ei nod yw darparu cyfleoedd am hyfforddiant a thrafodaeth a fydd yn arwain at amgylchedd mwy diogel a chynhwysol.

Dywedodd Dr Alcott: 

"Ers dros ganrif, mae reslo wedi bod yn ffurf boblogaidd o ddiwylliant ac adloniant. Ond nid yw’n glir a yw’n dod o dan y sector chwaraeon ynteu’r theatr, ac mae hyn wedi arwain at gymhlethdodau o ran sut mae'r diwydiant yn cael ei lywodraethu a'i reoleiddio.

"Yr ymchwiliad gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Reslo yw'r dadansoddiad a’r ymyrraeth swyddogol cyntaf yn y diwydiant reslo ers degawdau. Bydd y gynhadledd sy’n dilyn cyhoeddi adroddiad y grŵp yn gyfle i drafod canllaw o arfer gwell i wella'r diwydiant ar gyfer y dyfodol, er lles y perfformwyr yn ogystal â’r cefnogwyr."