Cnwd Aberystwyth sy’n gwrthsefyll sychder i helpu ffermwyr Affrica

Yr Athro Rattan Yadav

Yr Athro Rattan Yadav

11 Tachwedd 2022

Mae disgwyl i gnwd a ddatblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth helpu ffermwyr o Affrica gyflenwi bwyd yn wyneb newid hinsawdd.

Mae Prifysgol Aberystwyth a’r Sefydliad Ymchwil Cnydau Rhyngwladol ar gyfer y Trofannau Lled-Arid, yn Niamey, Niger, wedi datblygu math newydd o filed perlog sy’n gwrthsefyll sychder i helpu i baratoi ar gyfer amhariadau tywydd sy’n cael eu hachosi gan newid hinsawdd.

Mae miled perlog yn gnwd grawn sy'n gwrthsefyll sychder yn naturiol ac yn un o’r cnydau grawn sy’n cael eu bwyta fwyaf amlmewn nifer o wledydd yn Affrica, yn ogystal ag yn India a De Asia.

Amcangyfrifodd adroddiad diweddar gan Sefydliad Meteorolegol y Byd fod tymheredd uwch eisoes wedi lleihau cynhyrchiant amaethyddol Affrica o 34%, gyda mwy o sychder yn cael ei ragweld yn y dyfodol.

Yn dilyn treialon llwyddiannus o straen newydd y cnwd yn Niger, dywed ymchwilwyr fod yr hedyn bellach yn barod i'w ddefnyddio'n ehangach.

Dywedodd Rattan Yadav, Athro Geneteg Planhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth, a arweiniodd yr ymchwil ac sydd wedi bod yn gweithio ar ddatblygu’r cnwd ers 1996:

“Mae datblygu’r amrywogaeth newydd yma wedi bod yn waith oes i mi. Yr hyn sydd wedi fy ysgogi i ar hyd y blynyddoedd hyn yw gwybod y gallai wneud gwahaniaeth mor sylweddol i bobl sy’n byw mewn llawer o wledydd ledled y byd – llefydd lle mae ffermio’n anodd ac yn mynd yn galetach oherwydd newid hinsawdd.

“Mae miled berlog yn gnwd sydd eisoes yn bwydo pobl mewn mannau sydd â rhai o’r tiroedd amaethyddol mwyaf ymylol yn y byd. Mae'r straen newydd hwn yr ydym wedi'i fridio a'i dreialu yn ymateb yn well i law, ac felly bydd yn ei wneud hyd yn oed yn fwy gwydn. Felly nid yn unig y bydd yn ffynhonnell fwy diogel o fwyd i bobl, ond hefyd yn well i incwm ffermwyr.”

Yn ogystal â magu math newydd o’r cnwd sy'n gallu gwrthsefyll sychder, mae'r straen newydd hefyd yn dod â rhai manteision iechyd pwysig.

Manteisiodd y tîm ar un arall o rinweddau defnyddiol miledau perlog a datblygu eu straen newydd i gael mynegai glycemig isel.

Gyda nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yn Affrica i fod i ddyblu erbyn 2045, mae mynediad at gnwd â lefel glycemig isel yn cynnig buddion diriaethol.

Mae'r bwydydd hyn yn rhyddhau siwgr gwaed yn raddol, sy'n ddefnyddiol i bobl â diabetes ei fwyta gan y gall cynnydd mewn lefelau siwgr yn y gwaed fod yn beryglus iawn.

Ychwanegodd yr Athro Yadav o Brifysgol Aberystwyth:

“Ein nod cychwynnol oedd galluogi pobl i gael mynediad at fwyd ar adegau o sychder. Ond, mae darogan y bydd gan 41 miliwn o bobl Affrica ddiabetes math II erbyn 2045, mae ein hamrywogaeth miled newydd yn mynd i fod yn newid go iawn.”

Mae’r ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i gefnogi gan y BBSRC, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, INNOVATEUK, y Gymdeithas Frenhinol a Chronfa Newton y Deyrnas Gyfunol.