Ap newydd i wella’r gefnogaeth i oroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

29 Tachwedd 2022

Bydd prosiect newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar wella’r gefnogaeth i oroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth. 

Bydd prosiect RESTART ('Reporting Experiences of Survivors to Analyse in Real Time') yn defnyddio ap i gasglu gwybodaeth gan oroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn y Deyrnas Unedig am eu profiadau o'r gwasanaethau cymorth y maent yn eu derbyn, ac yn casglu eu barn ar sut y gellid gwella’r gefnogaeth y maent yn ei chael.

Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn arbenigwr ar gyfraith ymfudo a masnachu pobl a bydd yn gyfrifol am ddatblygu canllawiau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion cyfreithiol.

Yn ôl yr Athro Ryszard Piotrowicz: "Masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yw heriau mawr ein hoes ar lefel fyd-eang. Bydd y prosiect arloesol hwn yn galluogi inni gasglu profiadau goroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, yn eu geiriau eu hunain, ac mewn amser real. Daw hyn â nifer o fanteision. I'r goroeswyr, mae'n ffordd gyfleus iddynt roi adborth pryd bynnag y mynnant ar y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, yn hytrach na gorfod cael eu holi ac ailadrodd yr un wybodaeth wrth sawl person.

"I'r tîm ymchwil, bydd gallu dadansoddi'r adborth a gesglir yn gyfraniad amhrisiadwy tuag at ddatblygu gwasanaethau cymorth effeithlon ac effeithiol, ag ôl dylanwad defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain arnynt. Bydd hefyd yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn gallu addasu polisïau."

Mae'r prosiect wedi cael cyllid gan y Ganolfan Bolisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol, sy'n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar ran Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI).

Bydd yr Athro Piotrowicz yn cydweithio â Causeway a FiftyEight, dau sefydliad sy’n arbenigo ym maes masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, ac â'r cwmni ymchwil Trilateral Research.

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Ac yntau'n hanu o'r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Max-Planck Cyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.

Ar ôl cael ei Ddoethuriaeth yn 1987, aeth i fod yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Tasmania, gan aros am ddeng mlynedd ac yna cael ei benodi'n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.

Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn Aberystwyth yn 1999 ac mae hefyd wedi dysgu cyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae'n un o Gymrodorion Alexander-von-Humboldt, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a bu'n athro gwadd ym maes cyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.

Mae'n arbenigo ar gyfraith ymfudo a'r gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n gweithio'n bennaf ar y materion cyfreithiol sy'n codi o fasnachu pobl.

Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae'n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru a bu'n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15, ac yn aelod o GRETA, Grŵp Cyngor Ewrop o Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl, o 2013 i 2020 (Is-lywydd 2017-20).

Mae'r Athro Piotrowicz wedi gweithio'n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM) a'r Undeb Ewropeaidd.