Atal chwyn rhag gwenwyno da byw’r byd - darganfyddiad ymchwil rhyngwladol

Defaid ym Mongolia. Hawlfraint: Dr Wei He / yr Athro Baoyu Zhao

Defaid ym Mongolia. Hawlfraint: Dr Wei He / yr Athro Baoyu Zhao

15 Rhagfyr 2022

Mae ymchwilwyr yn Aberystwyth wedi gwneud darganfyddiadau pwysig wrth geisio datblygu dull i atal chwyn rhag gwenwyno da byw ar draws y byd.

Mewn partneriaeth gyda  Phrifysgol Y Gogledd-orllewin yn Tsiena, mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio pam fod chwyn yn troi’n wenwynig pan fo ffwng penodol yn tyfu tu fewn iddyn nhw. 

Mae Alternaria oxytropis yn ffwng sy’n byw mewn chwyn loco, megis Astragalus and Oxytropis, ac yn creu tocsin all ladd neu frifo da byw.

Mae'r ymchwil ar y cyd yng Nghymru a Tsieina eisoes wedi datgloi mecanweithiau’r berthynas rhwng y planhigyn a'r ffwng, ac yn gallu disgrifio sut mae'r tocsin yn cael ei gynhyrchu yn y ffwng hwn.

Mae’r mycotocsin yn niweidio prosesau biocemegol arferol mewn anifeiliaid fel defaid a cheffylau a gall achosi afiechydon niwrolegol a marwolaeth.

Mae’n broblem, sy’n effeithio ar ffermwyr mewn gwledydd megis yr Unol Daleithiau a Tsiena, ac mae llywodraethau a diwydiant yn defnyddio chwynladdwyr i waredu’r chwyn gwenwynig, a’r gost amgylcheddol ac economaidd sylweddol.

Wynebodd Seland Newydd broblem gyffelyb gyda rhygwellt ugain mlynedd yn ôl. Yn sgil dethol straenau endophyte diwenwyn nid yw’r mathau hynny o wair yn fygythiad i’r diwydiant amaeth bellach.

Dywedodd yr Athro Luis Murr o Brifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n gweithio i geisio deall y symbiosis rhwng y chwyn hyn a’r ffwng. Wrth ddeall y berthynas, gallwn ni edrych i gynhyrchu straen diwenwyn. Nid yn unig y byddai hyn yn llesol o ran iechyd da byw ac i ffermwyr ledled y byd, byddai hefyd yn lleihau'r defnydd o chwynladdwyr. Mae manteision amgylcheddol mawr yn ogystal ag economaidd ac iechyd anifeiliaid o fod wedi darganfod beth sy’n achosi hyn.”

“Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar geisio cicio’r ffwng allan o’r planhigyn hwn. Mae’r llwyddiant yn Seland Newydd wrth gynhyrchu mathau o rhygwellt nad ydyn nhw’n troi’n wenwynig yn enghraifft i ni ei dilyn.”

Dywedodd Dr Wei He o Brifysgol Y Gogledd-orllewin yn Tsieina:

“Mae deall y berthynas rhwng y planhigyn a’r ffwng yn bwysig iawn i amaethyddiaeth yn Tsiena. Diolch i’r ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, rydyn ni bellach wedi datgloi’r mecanweithiau y mae’r planhigyn a’r ffwng yn ymwneud â’i gilydd. Rydyn ni wedi helpu disgrifio sut y caiff y tocsin ei gynhyrchu drwy’r ffwng, sy’n bwysig hefyd.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd y cydweithio parhaus yn ein helpu i fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol y chwyn hyn ar dda byw.”

Daw’r cydweithio ymchwil yn y flwyddyn pan fo Prifysgol Aberystwyth ddathlu ei 150 mlwyddiant a Phrifysgol Y Gogledd-orllewin yn Tsiena ddathlu ei 120 mlwyddiant.