Prifysgol Aberystwyth yn sefydlu Uned Beirianneg Newydd

Yr Adran Ffiseg, lle caiff yr Uned ei lleoli yn y lle cyntaf.

Yr Adran Ffiseg, lle caiff yr Uned ei lleoli yn y lle cyntaf.

21 Chwefror 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth yn sefydlu Uned Beirianneg newydd i gyflwyno addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, ac arfogi myfyrwyr â’r sgiliau i ddarparu atebion arloesol ar gyfer y dyfodol.

Mae Peirianneg eisoes yn faes astudio sydd wedi’i hen sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n rhychwantu sawl adran academaidd. Ar hyn o bryd gall myfyrwyr astudio meysydd pwnc peirianneg gan gynnwys meddalwedd, roboteg, a pheirianneg y gofod, yn ogystal ag MBA mewn Rheolaeth Peirianneg.

Bydd yr Uned Beirianneg newydd yn cyfuno meysydd pwnc presennol gyda'r rhai sy'n cael eu datblygu dros y blynyddoedd i ddod. Mae cynlluniau eisoes ar waith i gyflwyno cyrsiau gradd peirianneg drydanol ac electronig newydd.

Bydd yr Uned newydd yn rhan o Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol y Brifysgol. Dywedodd ei Ddirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Qiang Shen, sy’n Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol:

“Mae peirianneg eisoes yn faes astudio poblogaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn un amrywiol, gyda chyrsiau ar draws sawl adran academaidd. Mae hefyd yn faes pwnc hynod ddiddorol sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n adlewyrchu maint y technolegau newydd sy'n dod i'r amlwg bron bob dydd.

“O ystyried ein henw da am addysgu ac ymchwil yn y maes hwn, dyma’r amser perffaith i ehangu ein harlwy a sefydlu Uned newydd i gydlynu ei datblygiad pellach.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Mae Prifysgol Aberystwyth yn enwog am ei harloesedd mewn addysgu, dysgu ac ymchwil, ond rydym yn gwybod pa mor bwysig yw peidio â gorffwys ar ein rhwyfau. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i symud ymlaen a herio ein hunain i barhau i ddarparu'r profiad academaidd gorau posibl.

“Yr Uned Beirianneg newydd yw ein cam nesaf yn y daith honno, yn dilyn lansio cyrsiau nyrsio ym mis Medi 2022 a sefydlu unig Ysgol Milfeddygaeth Cymru yn 2021. Bydd yr Uned yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a fydd ar flaen y gad o ran arloesi yn y degawdau i ddod a bydd yn meithrin ymchwil i dechnoleg a fydd o fudd i bob un ohonom.”

Bydd yr Uned yn cael ei harwain gan yr Athro Nigel Copner, cyn Athro Optoelectroneg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei faes arbenigedd o fewn telathrebu, synwyryddion, meddygaeth a mesureg, sef yr astudiaeth wyddonol o fesur. Mae’n ymuno â’r Brifysgol yn ffurfiol ym mis Ebrill 2023.

Dywedodd yr Athro Copner: “Mae Peirianneg yn rhan hanfodol o’n bywydau, yn allweddol i lwyddiant diwydiannol gwlad a’n gallu i gyflawni Sero Net. Gall yr Uned Beirianneg newydd adeiladu'r math cywir o sgiliau i gwrdd â'r heriau hyn a darparu'r arbenigedd a fydd yn helpu i drawsnewid ein cymdeithas.

“Mae’n fraint cael chwarae rhan yn sefydlu’r Uned newydd a rhoi’r hyder a’r ymwybyddiaeth i’n myfyrwyr i fasnacheiddio syniadau newydd.”