Ysgoloriaethau byd-eang mawr eu bri ar gynaliadwyedd i ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth

Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

27 Chwefror 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth, am y tro cyntaf, am gynnig ysgoloriaethau mawr eu bri mewn cynaliadwyedd bwyd ar gyfer myfyrwyr o wledydd y Gymanwlad.

Wedi'i hariannu gan Swyddfa Dramor y Deyrnas Gyfunol, mae Ysgoloriaethau Dysgu o Bell y Gymanwlad yn galluogi unigolion dawnus a llawn cymhelliant i gael mynediad at yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datblygu cynaliadwy nad ydynt ar gael yn eu gwledydd cartref.

Mae'r ysgoloriaethau o bell sy’n cael eu cynnig gan Brifysgol Aberystwyth wedi'u llunio er mwyn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i fyfyrwyr Meistr wella diogelwch bwyd, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd a lleihau colledion bioamrywiaeth ar hyd y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth.

Bydd ceisiadau ar gyfer y cyfleoedd astudio y mae mawr alw amdanynt yn cau ar 28 Mawrth.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae cynnig yr ysgoloriaethau hyn yn bluen fawr yn het y Brifysgol o ystyried y bri sydd ar y rhaglenni Cymanwlad hyn. Mae gennym gyfoeth o arbenigedd ym meysydd cynaliadwyedd, bwydydd y dyfodol ac amaethyddiaeth. Mae’n wych o beth ein bod ni bellach yn gallu rhannu’r sgiliau a gwybodaeth hyn ymhellach gyda myfyrwyr Meistr ar draws y byd.”

Ychwanegodd Martine Spittle Rheolwr Prosiect Dysgu o Bell ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn helpu rhai o fyfyrwyr Meistr disgleiriaf y byd i ddysgu gan ein harbenigwyr blaenllaw yma yn Aberystwyth. Drwy astudio yma, byddan nhw’n dysgu am y syniadau diweddaraf mewn meysydd megis cynhyrchu da byw, lleihau gwastraff, diogelwch bwyd, milltiroedd bwyd a bioamrywiaeth.

“Mae llawer o’r myfyrwyr hyn eisoes yn gweithio fel cynghorwyr bwyd-amaeth, ymchwilwyr neu weithredwyr polisi, sy’n golygu y gallan nhw ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau hyn ar gyfer eu gwaith cynghori, eu hagenda ymchwil neu bolisi yn fyd-eang. Gallan nhw ddefnyddio’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu i newid agweddau, ymddygiad ac ymarfer yn eu sector hefyd.

“Mae myfyrwyr yng Nghymru sydd eisoes wedi astudio ar y cyrsiau gradd Meistr hyn wedi mynd ymlaen at sefydlu busnesau megis ffermio micro-algâu a mentrau sydd wedi ychwanegu gwerth at gig a chynnyrch llaeth. Mae mor gyffrous y bydd yr ysgoloriaethau hyn yn agor y cyrsiau hyn i fwy o fyfyrwyr ledled y byd gan helpu i wella cynaliadwyedd bwyd yn rhyngwladol.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau ar gael drwy fynd i: https://ibersdl.org.uk/registration/international-scholarships/