Arddangosfa yn y Senedd yn adrodd hanesion ffoaduriaid

02 Mawrth 2023

Mae arddangosfa sy'n adrodd hanesion ffoaduriaid yng Nghymru o'r gorffennol a'r presennol yn cael ei harddangos yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Cafodd 'Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y gorffennol i lywio’r dyfodol' ei churadu ar y cyd gan Dr Andrea Hammel a Dr Morris Brodie o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â ffoaduriaid a'r rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid i ailsefydlu yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa’n olrhain hanes y ffoaduriaid hynny sydd wedi chwilio am noddfa yng Nghymru, o'r rhai a ddihangodd o Ganol Ewrop yn sgil Sosialaeth Genedlaethol yn y 1930au a'r 1940au, i ffoaduriaid cyfoes.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a'r rhai a fu’n gweithio ochr yn ochr â nhw ar draws y degawdau.

Mae Dr Hammel hefyd wedi bod yn cydweithio â'r gwneuthurwr ffilmiau o Aberystwyth, Amy Daniel, gan weithio ochr yn ochr â grwpiau o ffoaduriaid a’r rhai sy'n eu cynorthwyo, i ddatblygu ymateb creadigol sy'n cysylltu straeon gwahanol ffoaduriaid yng Nghymru. Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn rhan o'r arddangosfa.

Dywedodd Dr Hammel, Darllenydd mewn Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Fel cenedl, mae Cymru wedi bod yn darparu noddfa i ffoaduriaid ers amser maith. Mae ein harddangosfa yn rhoi llais i'r ffoaduriaid hyn, ac yn caniatáu i ni ddarganfod eu hanesion trwy eu geiriau a'u lluniau eu hunain.

"Mae'r arddangosfa yn amlygu’r cyfraniad cadarnhaol y mae'r dynion, menywod a phlant hyn wedi'i wneud i fywyd a diwylliant Cymru. Mae’r ffoaduriaid a ailsefydlodd yng Nghymru yn y 1930au a'r 1940au wedi ymgartrefu yn y rhan hon o'r byd, ac maent bellach yn rhan annatod o wead bywyd Cymru. Mae'r un peth yn wir am y Syriaid, Afghanistaniaid ac Wcrainiaid a'u dilynodd ac sydd eisoes yn cael effaith ddiwylliannol ac economaidd yng Nghymru, gan sefydlu busnesau, magu teuluoedd, cyflwyno bwydydd newydd, a llawer mwy."

Ar 1 Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi arbennig yn y Senedd, a fu’n gyfle i glywed yn uniongyrchol gan ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, gwrando ar y rhai a gyfrannodd at yr arddangosfa, a mwynhau perfformiad arbennig gan y gantores o’r Wcráin, Khrystyna Makar.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Dr Hammel:

"Yn y digwyddiad heddiw, safodd ffoaduriaid cyfredol o’r Wcráin a Syria ochr yn ochr â chyn-ffoaduriaid o Ewrop dan y Natsïaid i dynnu sylw at y materion tebyg y maent yn eu hwynebu."

"Mae ein prosiect wedi ceisio dangos, trwy ddysgu o brofiadau ffoaduriaid - y profiadau cadarnhaol a’r profiadau negyddol fel ei gilydd - y gallwn helpu i adeiladu dyfodol gwell i bawb sy'n chwilio am noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth."

Curadwyd yr arddangosfa yn rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost a arweinir gan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol ac a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd tan 18 Ebrill 2023.