Ap newydd o Gymru â photensial i adfer cynefinoedd o amgylch y byd

Yr Athro Richard Lucas, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Richard Lucas, Prifysgol Aberystwyth

04 Mai 2023

Mae ap newydd allai ddiogelu ac adfer ecosystemau a chynefinoedd o amgylch y byd yn cael ei lansio gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.

Fel rhan o brosiect Cymru Fyw, mae ymchwilwyr wedi datblygu’r ap i fonitro a mapio newid mewn defnydd tir, gan gynnwys termau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae’n monitro dros 240 math o newid, gan gynnwys clirio coedwigoedd, difrod tân, llifogydd ac erydu – newidiadau a achosir gan bobl a digwyddiadau naturiol fel ei gilydd. 

‘Earthtrack’ yw enw’r ap sydd eisoes wedi cynorthwyo asesu a mapio coedwigoedd a chynefinoedd yng Nghymru a gwledydd eraill, megis effaith difrod tân yn Awstralia.

Wedi cyfnod o dreialu a gwerthuso, bwriad yr ymchwilwyr yw ehangu defnydd Earthtrack i ragor o fudiadau ac unigolion yng Nghymru a thu hwnt er mwyn adfer ecosystemau a bioamrywiaeth, rheoli tir yn gynaliadwy, a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn y lansiad, bydd y tîm hefyd yn dangos mapiau gorchudd tir gwell a newydd o Gymru, gan gynnwys y Map Cynefinoedd Cymru Fyw newydd.

Dywedodd yr Athro Richard Lucas o'r Grŵp Arsylwi'r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae'r ap newydd Earthtrack yn rhan o'n hymdrechion i gefnogi gwarchod, cadw ac adfer ecosystemau'r Byd a'u bioamrywiaeth. Mae'n darparu gwybodaeth yn uniongyrchol y gellir ei defnyddio i ddatblygu a dilysu mapiau gorchudd tir a newid a gynhyrchir o ddata lloerennau neu awyrennau,yn hanesyddol ac mewn amser real i bob pwrpas. Gall cofnodion a gyflwynir gan ddefnyddio’r ap hefyd helpu i olrhain cynnydd tuag at greu amgylcheddau gwell i bobl a natur.

“Mae gan y dechnoleg hon botensial enfawr i gefnogi rheoli tir a pholisi cyhoeddus yn y dyfodol.Ar ôl dechrau profi’r ap, rydyn ni nawr yn gofyn i sefydliadau a chyrff amgylcheddol ystyried ei fabwysiadu, a gallwn ni ddarparu hyfforddiant ar ei gyfer.Gwerth mawr yr ap yw y gall roi cyfle i ddinasyddion gyfrannu eu harsylwadau eu hunain ar gyflwr a dynameg ein hamgylchedd sy’n newid yn barhaus.Mae Earthtrack hefyd yn rhoi’r grym i bobl i’w galluogi i gyfrannu at fynd i’r afael â rhai o heriau mawr y Byd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a defnydd doeth o adnoddau naturiol."  

Ychwanegodd Claire Horton, Rheolwr Arsylwi Daearofodol a Daear yn Llywodraeth Cymru:

“Mae ap symudol Earthtrack yn rhoi cyfle newydd ac unigryw i Gymru ddarparu gwybodaeth amserol am dirwedd Cymru, sydd i gyd yn helpu i wella ein hamgylchedd, ein heconomi a’n llesiant yn y dyfodol.

“Mae hwn yn ddull newydd arloesol o gasglu data amgylcheddol yn y maes. Mae’r dechnoleg newydd hon yn cael ei phofi i asesu sut y gellir ei defnyddio er budd nifer o weithgareddau ar draws Llywodraeth Cymru, o rannu data arolwg tir i helpu i ddilysu allbynnau Cymru Fyw i’w defnyddio fel ffordd effeithlon o gofnodi gwybodaeth fel rhan o’n prosesau arferol o ddydd i ddydd.Fe anogir datblygiad Earthtrack at ddefnydd cynulleidfa ehangach gan fod gan wyddoniaeth dinasyddion ran bwysig i’w chwarae wrth wella dealltwriaeth o’n hamgylchedd.”