Penodi Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi newydd

Yr Athro Angela Hatton

Yr Athro Angela Hatton

12 Mai 2023

Mae’r Athro Angela Hatton wedi’i phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Hatton yn Brif Wyddonydd a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (NOC) yn Southampton.

Yn gyn-Gyfarwyddwr Ymchwil Cymdeithas Gwasanaethau Morol yr Alban, lle bu’n gweithio’n agos gyda Phrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd (UHI) mae’r Athro Hatton yn Brif Ymchwilydd ar Raglen Wyddoniaeth Sector yr Iwerydd sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd, sy’n darparu cyfraniad y DU i’r System Arsylwi Cefnfor Byd-eang (GOOS) sy’n cael ei arwain gan y Comisiwn Eigioneg Rhynglywodraethol.

Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn Gadeirydd Gweithgor Degawd y DU, yn aelod o Grŵp Adolygu Gwyddoniaeth y Swyddfa Dywydd yn Hadley ac yn aelod craidd o banel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r Athro Hatton i Aberystwyth sy’n dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’n sefydliad. Mae Aberystwyth yn brifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac sy’n dathlu creu a chyfnewid gwybodaeth, effaith ac arloesi, ac sy’n sicrhau manteision sylweddol i’r economi, yr amgylchedd, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt. Wrth weithio gyda’r Athro Hatton, byddwn yn adeiladu ar 150 mlynedd o ymchwil arloesol sy’n llywio ein haddysgu ac yn cyfoethogi’r hyn a gydnabyddir yn eang fel un o’r profiadau dysgu gorau i fyfyrwyr yn y DU.”

Dywedodd yr Athro Hatton: “Mae’n destun cyffro mawr i mi fy mod wedi fy mhenodi’n Ddirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd yn Aberystwyth, a fy mod yn medru chwarae rhan wrth gyflawni’r dyheadau sydd wedi eu nodi yn y Strategaeth Ymchwil ac Arloesi. Fel rhywun sy’n credu’n gryf mewn cefnogi a galluogi cydweithwyr dawnus, edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddatblygu ymhellach amgylchedd ymchwil sy’n uchelgeisiol, yn edrych tuag allan, sy’n ymgysylltu, yn gefnogol ac yn gynhwysol.”

Mae’r Athro Hatton yn raddedig o Brifysgol John Moores Lerpwl a Phrifysgol Dwyrain Anglia lle y derbyniodd ddoethuriaeth mewn Biogeocemeg Forol a Microbaidd. Mae hi hefyd yn Gymrawd etholedig o'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol a Chymdeithas Gwyddor Môr yr Alban.

Bydd yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ar 1 Awst 2023.