Llond lle o hwyl mewn gŵyl i ymarfer siarad Cymraeg

Dawnsio Twmpath yn yr heulwen fel rhan o Ŵyl yr Haf 2023 Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr.

Dawnsio Twmpath yn yr heulwen fel rhan o Ŵyl yr Haf 2023 Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr.

23 Mai 2023

Daeth dros 100 o ddysgwyr a’u teuluoedd ynghyd ar gampws Llanbadarn Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 13 Mai 2023 ar gyfer yr Ŵyl Haf gyntaf erioed i’w chynnal gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr.  

Yn ogystal â chael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb a sgwrsio yn Gymraeg, roedd ystod eang o weithgareddau ar gael yn ystod y dydd, gan gynnwys Sesiwn Ukelele gyda Steffan o CERED, Sesiwn Sudd gyda Rhiannon Taylor a Sesiwn Swmba gyda Katy Liscombe. 

Roedd cyfle i roi cynnig ar ganu’r delyn, pori neu brynu llyfrau Cymraeg, chwarae gemau bwrdd a chymryd rhan mewn cwis.

Croesawyd dysgwyr a’u teuluoedd hefyd i Seremoni Wobrwyo i ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn. 

Derbyniodd dysgwyr oedd wedi pasio’r CBAC (lefel Mynediad) eu tystysgrifau a chafodd unigolion a grwpiau eu gwobrwyo am eu gwaith caled mewn categorïau gwahanol megis Grŵp Cymraeg yn y Cartref, Dysgwr Cymraeg Gwaith a Grwp y Flwyddyn.  

Derbyniodd Alex Tudur, enillydd ‘Dysgwr y Flwyddyn’, englyn bersonol wedi ei ysgrifennu gan Mererid Hopwood, a derbyniodd Rhiannon Sparrow, enillydd ‘Tiwtor y Flwyddyn’,  englyn bersonol gan Eurig Salisbury. 

Ar ddiwedd y prynhawn daeth pawb at ei gilydd yn yr heulwen ar gyfer Twmpath Dawns, dan ofal Bryn a Rhian Davies. 

Dywedodd Anika Lloyd o Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys Sir Gâr: 

“’Dyn ni’n hynod falch o fod wedi gallu cynnal yr Ŵyl hon ar gyfer ein dysgwyr.  Roedd gwên ar wynebau pawb drwy’r dydd a bwrlwm egnïol yn yr adeilad.  Mae hi’n bwysig dangos i ddysgwyr bod modd iddyn nhw ddefnyddio’r iaith wrth wneud gweithgareddau ac roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o blant yn mwynhau!” 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, o dan yr enw Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr. 

Mae cyrsiau byrion ar gael ar ddiwedd Mehefin/dechrau gorffennaf, a chwrs 4 wythnos dwys (bob lefel) ar gael yn Aberystwyth sy’n dechrau 10 Gorffennaf 2023. O Mehefin 2023, bydd modd dod o hyd i gyrsiau newydd 30 wythnos (Medi 2023 – Mehefin 2024) ar wefan dysgucymraeg.cymru.