Golygydd Hinsawdd y BBC i annerch Prifysgol Aberystwyth

Justin Rowlatt, Golygydd Newid Hinsawdd y BBC

Justin Rowlatt, Golygydd Newid Hinsawdd y BBC

08 Chwefror 2024

Bydd Golygydd Hinsawdd y BBC, Justin Rowlatt, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth fis nesaf.

Bu Justin Rowlatt yn ohebydd ar Newsnight, newyddion Channel 4 a Panorama a chafodd ei enwebu ar gyfer gwobrau’r Gymdeithas Teledu Frenhinol a BAFTA am ei waith.

Daeth yn adnabyddus ym Mhrydain yn 2006 pan fu’n ‘Dyn Moesegol’ Newsnight ar BBC2.

Mae’r ddarlith gyhoeddus a sesiwn cwestiwn ac ateb, a gynhelir ar ddydd Iau 7 Mawrth, yn agored i’r cyhoedd gyda nifer cyfyngedig o docynnau ar gael drwy fynd i: https://justin-rowlatt-aberystwyth.eventbrite.co.uk

Yn ystod y digwyddiad, bydd Justin Rowlatt yn siarad am ei brofiadau ac yn sgwrsio gyda’r gynulleidfa am ganfyddiadau’r cyhoedd a’r ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y DU a ledled y byd

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Justin Rowlatt, Golygydd Hinsawdd y BBC:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i Aberystwyth ac i drafod pob agwedd o newid hinsawdd  gyda’r myfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Mae’r disgwrs parhaus, byd-eang o amgylch newid hinsawdd yn heriol dros ben.

“Ond mae yna stori gadarnhaol i’w hadrodd hefyd ac fel rhan o fy swydd rwy’hefyd yn cael ymdrin â’r holl ddatblygiadau yn yr economi werdd lewyrchus. Rydyn ni’n byw trwy gyfnod o newid technolegol ac economaidd anhygoel ac mae hynny’n creu cyfleoedd enfawr i’r bobl hynny sy’n fodlon torchi eu llewys a chymryd rhan.”

Ychwanegodd Yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Bydd yn bleser croesawu Justin yma i drin a thrafod ei waith a’i fewnwelediadau unigryw i’r trafodaethau cyhoeddus o amgylch newid hinsawdd. Mae fe’n adrodd yn rheolaidd ar dystiolaeth o newid hinsawdd a’r ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi a’r angen am newid; gan gwmpasu llawer o gynadleddau newid hinsawdd blynyddol y Cenhedloedd Unedig. Mae ei newyddiaduraeth hefyd yn helpu i sicrhau atebolrwydd y rhai sy'n gweithio i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

“Fel rhan o'r drafodaeth eang sy’n cwmpasu cymdeithas gyfan, rydym yn ffodus iawn bod gennym ni yma’n  Aberystwyth arbenigwyr sy’n arwain mewn meysydd fel bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Mae eu haddysgu a’u hymchwil yn gwneud cyfraniad cadarnhaol yn lleol ac yn rhyngwladol. Bydd sgwrs Justin yn gyfle i drafod yn ddyfnach y pynciau hyn sy’n hynod o bwysig i’n bywydau ni i gyd.”

Ychwanegodd Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr atgreu gofod i fyfyrwyr, ymchwilwyr, busnesau ac aelodau o’r gymuned glywed am brofiadau Justin ac ymuno ag ef mewn sgwrs.Mae cynnal cyfleoedd i gyfnewid syniadau yn hanfodol i rôl barhaus y Brifysgol fel partner wrth greu dyfodol gwell.”