Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru

 

Myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi creu neges Heddwch ac Ewyllys Da Canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru 2022 ar ran pobl ifanc Cymru.

Mae neges bwerus eleni, ar thema’r Argyfwng Hinsawdd, yn galw ar bobl ifanc y byd, i ddefnyddio grym eu llais i annog llywodraethau a chorfforaethau mawr i gymryd camau brys i achub ein planed.

I atgyfnerthu pwysigrwydd rhyngwladol y neges, ffurfiwyd partneriaeth ffurfiol rhwng myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy.

Cynhaliwyd gweithdai gyda myfyrwyr o’r ddwy wlad i drafod y pwnc a pharatoi’r neges.

Yn ogystal â gweithio gyda’r Urdd i hyrwyddo’r neges yng Nghymru, teithiodd ein myfyrwyr i Norwy ar gyfer digwyddiad yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn Oslo.

Yr addewidion

Mae pob myfyriwr a gymerodd ran yn y neges wedi gwneud eu haddewidion argyfwng hinsawdd eu hunain, megis peidio â siopa am ffasiwn cyflym a phrynu cynnyrch lleol.  

Cliciwch ar y fidoes isod i glywed eu haddewidion. 

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Canmlwyddiant yr Urdd a’r rhan ganolog y mae ein myfyrwyr wedi’i chwarae wrth ei datblygu.  Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu ein planed, ac mae ymrwymiad personol ein myfyrwyr i leihau eu hôl troed carbon yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.”

 

Am y 100 mlynedd diwethaf mae pobl ifanc Cymru wedi rhannu neges unigryw o Heddwch i’r byd ar y 18fed o Fai. Nid oes unrhyw wlad arall yn y byd wedi cyflawni hyn, gan oresgyn rhyfeloedd a newidiadau mawr mewn dulliau cyfathrebu, o God Morse i radio a’r gwasanaeth post, i rwydweithiau digidol heddiw.

Gallwch lawrlwytho'r neges, sydd ar gael mewn 100 o ieithoedd, yma. Mae’r Urdd yn annog pobl ledled y byd i gynorthwyo i gryfhau lleisiau ieuenctid Cymru drwy rannu’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol o @Urdd a defnyddio #Heddwch100.